Mari Thomas
Mari Thomas Jewellery
Trosolwg:
Fy musnes dylunio gemwaith
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Fe ddechreuais fy musnes dylunio gemwaith ym 1998 dair blynedd ar ôl graddio. Yn ystod y cyfnod hwnnw fe gefais nifer o swyddi rhan-amser wrth imi ddatblygu fy mhortffolio ac ennill profiad. 

"Dilynwch eich breuddwydion"

Mari Thomas - Mari Thomas Jewellery

Fe ddechreuais weithio mewn gweithdy bach yn Sir Benfro ochr yn ochr â gemydd arall. Ro'n i'n gwerthu'n uniongyrchol o'r stiwdio ac yn cyflenwi ychydig o orielau.  Ar ôl ambell siom, fe lwyddais i ennill comisiynau uchel ei bri ac roedd gen i sioe unigol lwyddiannus.

Erbyn hyn, mae fy ngemwaith yn cael ei arddangos ledled y byd, ac mae hefyd wedi fy ngalluogi i deithio gryn dipyn - rhywbeth oedd wastad wedi bod yn uchelgais imi. Rydw i hefyd wedi cael fy nghomisiynu i wneud gwaith â phroffil uchel iawn.


Cysylltu gyda Mari