Michelle Beer
Ferry Cake Marketing & PR
Trosolwg:
Siop-un-safle ar gyfer anghenion cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Fe ddechreuais Ferry Cake Consultancy am fy mod eisiau gweithio gydag amrywiaeth o wahanol fusnesau a'u cefnogi. Rydw i'n aml yn cael fy ysbrydoli gan syniadau busnes pobl a pha mor benderfynol ydyn nhw. Mae rhedeg fy musnes fy hun yn fy ngalluogi i ddewis gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid diddorol. 

Rydw i hefyd yn mwynhau'r heriau rheolaidd sy'n rhan o'r gwaith, ac mae'n well gen i roi cynnig ar wneud pethau mewn ffyrdd creadigol a gwahanol.  Rydw i'n fam i dri o blant, felly mae cadw trefn ar y busnes a'r bywyd teuluol yn her - ond rydw i'n ei mwynhau'n fawr.

"Credwch yn eich syniadau a gwnewch lawer o waith ymchwil - nid drwy ofyn i'ch ffrindiau a theulu yn unig. Ewch i chwilio am gefnogaeth a chymerwch gamau!"

Michelle Beer - Ferry Cake Marketing & PR

Mae Ferry Cake Consultancy yn siop-un-safle ar gyfer anghenion cysylltiadau cyhoeddus marchnata. Rydyn ni’n cefnogi perchnogion busnes, busnesau bach a chanolig, adrannau marchnata a gweithwyr proffesiynol. 

Mae cynllunio ymgyrchoedd marchnata strategol, gwefannau, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus ymysg y meysydd rydyn ni'n gweithio ynddyn nhw.


Cysylltu gyda Michelle