Mollie Watkins
Mollie Watkins
Wat Cosmetics
Trosolwg:
Artist colur o Ben-y-bont ar Ogwr yn gweithio hyd yr eithaf i lansio busnes amrannau ffug newydd
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Artist colur o Ben-y-bont ar Ogwr yn gweithio hyd yr eithaf i lansio busnes amrannau ffug newydd

Mae myfyriwr 22 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi lansio ei busnes cosmetigau ei hun gyda dewis o chwech o gynhyrchion amrannau ffug, sydd wrth fodd llawer iawn o bobl, gan gynnwys seren The Only Way is Essex Gemma Collins, am eu bod yn para’n hir.

Lansiodd Mollie Watkins Wat Cosmetics i fynd ar drywydd ei hangerdd am gelfyddyd colur gan ei bod bob amser yn cael ei siomi gan ansawdd amrannau’r stryd fawr. Fe wnaeth fuddsoddi ei chynilion ei hun yn y busnes er mwyn ei roi ar ben ffordd. Ers ei lansio ym mis Mehefin eleni, mae Wat Cosmetics eisoes yn brolio cwsmeriaid dylanwadol megis y drag-artist Bran Alunan sydd â bron i 70,000 o ddilynwyr ar Instagram.

Mae Mollie wrthi’n astudio colur ac effeithiau arbennig yng Ngholeg Manceinion, ac mae dechrau Wat Cosmetics yn gwireddu breuddwyd hir a fu ganddi o redeg ei busnes ei hun. Ar ôl gwneud ymchwil gofalus i’r farchnad ac i gwsmeriaid, cyfarfu Mollie ag ymgynghorydd yn ei banc a deimlai fod ei syniad busnes yn hyfyw yn ariannol.

Fe wnaeth yr un cynghorydd argymell bod Mollie yn mynd at Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth entrepreneuriaeth i bobl ifanc yng Nghymru, i’w helpu i ddatblygu ei busnes. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Busnes Cymru ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes.

Creodd Mollie ei brand gyda help ei ffrind sy’n ddylunydd graffig, Olivia Jenkins, sydd hefyd yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr, ac fe wnaeth greu ei gwefan a’i siop ar-lein ar ei phen ei hun.

Wrth siarad am lansio ei busnes, dywedodd Mollie: “Rydw i wedi bod mor ffodus gallu troi fy niddordeb mewn colur yn fusnes ac rwyf wedi creu brand rwy’n teimlo’n falch iawn ohono. Rwyf am i gynhyrchion Wat Cosmetics fod yn gynhwysol i bawb, felly rwyf wedi dylunio’r brand yn benodol i apelio i bawb, nid dim ond menywod.

“Mae’r amrannau rwy’n eu gwneud yn para’n llawer hirach na llawer o’r cynhyrchion a gewch chi ar y stryd fawr. Allwch chi ddim ond gwisgo’r rheini unwaith neu ddwy. Mae’r adborth rwyf wedi’i gael cyn belled yn gadarnhaol iawn gyda llawer o’m cwsmeriaid yn defnyddio’r cynhyrchion dros ddeg gwaith, felly maen nhw wir yn cael gwerth eu harian.”

Cyfarfu Mollie â chynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru Chris Howlett a oedd yn gallu ei chynghori ar redeg busnes llwyddiannus a’i helpu gyda’r agweddau cyfreithiol ac ariannol ar fod yn berchennog busnes.

Aeth Mollie ymlaen: “Mae Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn help enfawr, gan fy anelu i’r cyfeiriad iawn pan oeddwn angen. Fi yw’r entrepreneur cyntaf yn fy nheulu, sy’n golygu fy mod i’n dysgu llawer fel mae’n digwydd heb unrhyw brofiad blaenorol, felly mae’n beth braf iawn gwybod bod Chris yno os bydd arnaf angen ychydig o gyngor. Rwyf eisoes wedi argymell Syniadau Mawr Cymru i un o’m ffrindiau sydd am ddechrau busnes.”

I’r dyfodol mae Mollie yn gobeithio ehangu ei dewis o gosmetigau i gynnwys brwsys colur, colur llygaid a cholur sglein gwefusau, ond byddai’n dal i sicrhau bod ei chynhyrchion yn gynhwysol a bod pawb yn gallu eu defnyddio. Ei breuddwyd yw gweld cynhyrchion Wat Cosmetics yn cael eu stocio mewn siopau fel Boots, Superdrug a Topshop.

Meddai: “Fe fyddwn wrth fy modd yn datblygu mwy o gynhyrchion i’r dyfodol ac ehangu’r dewis. Un o’m dyheadau yw gweithio gydag elusennau alopesia a chreu dewis o amrannau sy’n addas i bobl sy’n byw â’r cyflwr. Ond ar hyn o bryd, rwy’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’m brand a’r dewis o amrannau ffug sydd gennyf ar gael yn awr.”

Hyfforddodd Mollie fel artist colur yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro cyn cychwyn ar ei gradd sylfaen ym Manceinion. Ar ôl graddio, mae Mollie yn bwriadu symud yn ôl i Gymru i barhau ar drywydd ei huchelgeisiau busnes a manteisio ar wasanaethau fel Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru sydd ar gael i entrepreneuriaid.

Meddai Chris Howlett, cynghorydd busnes yn Syniadau Mawr Cymru: “Mae’n wych gweld pa mor bell mae Mollie wedi dod gyda’i busnes yn barod. Mae hi’n esiampl wych o berson ifanc sy’n defnyddio’i meddwl entrepreneuraidd ochr yn ochr â’r sgiliau y mae eisoes wedi’u meithrin i gyflawni ei huchelgais. Edrychwn ymlaen at weld sut mae ei busnes yn tyfu i’r dyfodol.” 

Mae amrannau Wat Cosmetics yn costio £12 am bâr a gallwch eu prynu yn https://watcosmetics.com/

 

 


Cewch sesiynau 1-2-1 gyda Chynghorydd Busnes, canllaw ar gychwyn busnes a Simply Do Ideas - ffordd wych o ddatblygu eich syniadau busnes chi!