Nick Russill photo
Nick Russill
Snow-Forecast
Trosolwg:
Gwefan tywydd mwyaf poblogaidd y rhyngrwyd ar gyfer chwaraeon y gaeaf
Sectorau:
Gwyddorau bywyd

Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr TerraDat Geophysics (sefydlwyd yn 1992). Un o gwmnïau archwilio tir arloesol Ewrop gan arbenigo mewn defnyddio geoffiseg cydraniad uchel bas gyda phroblemau peirianneg ac amgylcheddol. Mae TerraDat hefyd yn cipio realiti 3D i ddarlunio’r amgylchfyd uwchben y ddaear ar gyfer eu defnyddio er enghraifft,  mewn dogfennau treftadaeth, BIM ac i fapio golygfeydd fforensig.

Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Snow-Forecast.com sydd, gyda’i chwaer safleoedd ar gyfer syrffwyr, mynyddwyr ac eraill sy’n frwdfrydig am yr awyr agored.  Wedi dechrau fel prosiect ymylol 20 mlynedd yn ôl, yn benodol i ddarganfod yr amodau syrffio ac eirafyrddio gorau ar gyfer y sylfaenwyr eu hunain, erbyn eleni, mae’r traffig cyfunol yn fwy na 43 miliwn o ddefnyddwyr y flwyddyn.

Gyda’i angerdd am hyrwyddo entrepreneuriaeth ag iddi ddiben, mae Nick yn fodel rôl busnes i brosiect Llywodraeth Cymru “Syniadau Mawr Cymru”, sy’n ysbrydoli pobl ifanc o oed Cynradd i Addysg Bellach i wireddu eu breuddwydion. Mae’n fentor achlysurol i’r Prince’s Trust, ac yn 2019, enillodd ei le fel Entrepreuneur Preswyl ym Mhrifysgol Caerwysg.

Mae’n ddarlithydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnal cysylltiadau academaidd ar gyfer hyrwyddo ymchwil ym meysydd monitro daearofod, rhew parhaol a newid hinsawdd a’r gwyddorau geoffisegol.

Mae’n Ymddiriedolwr elusen symudedd cymdeithasol Cymru sy’n cael ei hariannu gan y Loteri. Mae Cronfa Mullany yn mentora pobl ifanc sy’n ystyried gyrfa ym maes gwyddorau bywyd.