Nikki Watson
Nikki Watson
Trosolwg:
Awdur ac Entrepreneur Cymdeithasol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol

Mae Nikki Watson yn awdur ac yn entrepreneur cymdeithasol, sy’n gweithio i wella hawliau plant a phobl ifanc a chefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant.

Cyn hynny, roedd Nikki yn Bennaeth Hawliau Merched ac Ieuenctid yn yr elusen fyd-eang, Plan International UK, ac yn sylfaenydd Full Circle Education, menter gymdeithasol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc drwy amrywiaeth o raglenni addysgol ac allgwricwlaidd i godi dyheadau, cyrhaeddiad a phresenoldeb yn yr ysgol.

Mae Nikki wedi ysgrifennu pedwar llyfr addysgol a gynhyrchwyd gan Jessica Kingsley Publishers ac fe’i henwyd yn ‘Seren  Newydd’ gan Business Insider Wales a’i rhestru yn un o ferched busnes ‘35 o dan 35 oed’ Wales Online yn 2015.  Mae Nikki yn llysgennad ar ran y sefydliad Girl Rising, sy’n ceisio grymuso merched ledled y byd.