Olaitan portrait
Olaitan Olawande
Practice What You Speak
Trosolwg:
Entrepreneur ifanc o Fangor yn gweithredu ar ei geiriau gyda menter siarad cyhoeddus
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Amrywiol
Rhanbarth:
Gwynedd

Mae merch 21 oed sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi defnyddio ei chariad at siarad cyhoeddus i lansio busnes sy’n helpu plant i feithrin sgiliau hyder o oedran ifanc.  

Fe wnaeth Olaitan Olawande, sy’n gwneud cwrs Meistr mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol, sefydlu Practice What You Speak i ddarparu gweithdai siarad cyhoeddus i bobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig. Bwriedir y gweithdai ar gyfer tair ystod oedran, 7-11 oed, 12-17 oed a 18-24 oed, gydag Olaitan eisoes wedi cynnal gweithdai i dros 30 o bobl ifanc.  

Bwriedir Practice What you Speak ar gyfer plant sydd eisoes yn gyfforddus yn siarad yn gyhoeddus ond sydd eisiau mireinio eu sgiliau, neu ar gyfer plant sy’n ddihyder ac angen help ychwanegol. Drwy gyfrwng gweithgareddau gan gynnwys cylymau tafod, ymarfer ynganu a gemau dadlau, dywedodd Olaitan ei bod wedi lansio’r busnes er mwyn i blant deimlo wedi’u “grymuso”.

Dechreuodd Olaitan ei busnes gyda help Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o Busnes Cymru ac a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bwriedir y gwasanaeth ar gyfer unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd eisiau datblygu syniad am fusnes.

Cafodd busnes Olaitan ei lansio i ddechrau fel gweithdy y byddai pobl ifanc yn ei fynychu, ond oherwydd cyfyngiadau symud Covid aeth ati i gynnig gweithdai ar-lein.

Wrth siarad am sefydlu ei menter ei hun, dywedodd Olaitan: “Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd â siarad cyhoeddus ers pan oeddwn yn ifanc ac roeddwn eisiau defnyddio hynny i helpu pobl eraill a rhoi iddynt yr offer i wella ansawdd eu bywyd pan yn blant. Bydd gosod y sylfeini yn gynnar i alluogi plant i deimlo’n hyderus yn rhoi iddynt sgiliau gydol oes.

 

“Er bod y llynedd wedi bod yn anodd i bron bob agwedd ar redeg busnes, yr amser segur yn ystod y cyfyngiadau symud oedd y cymhelliant yr oedd arnaf ei angen i addasu’r busnes fel y gallai ddal i weithredu er gwaethaf y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol. Roeddwn yn falch dros ben gweld y gallai’r gweithdai redeg yr un mor llwyddiannus dros alwad fideo ag y gallent yn bersonol.”

Mae gweithdai 6 awr Olaitan yn rhedeg yn ystod gwyliau’r ysgol, ond mae ganddi eisoes uchelgais i drefnu digwyddiadau siarad cyhoeddus graddfa fawr i redeg dros nifer o ddyddiau.

Ar ôl mynychu digwyddiad B Enterprising ym Mhrifysgol Bangor, cyfeiriwyd Olaitan at Syniadau Mawr Cymru lle cyfarfu â’i chynghorydd busnes Katherine Lewis. Gan siarad am y gwasanaeth, dywedodd Olaitan: “Mae cael rhywun ar ben arall y ffôn i ofyn am gyngor am fy musnes wedi bod yn help mawr, yn enwedig mewn blwyddyn cwbl ryfeddol ar gyfer sefydlu busnes. Mae Katherine wedi gosod nodau imi ac wir wedi fy annog i fod â hyder yn fy arlwy wrth i’r busnes ddod yn fwy sefydledig.”

 

 

Mae Olaitan hefyd wedi manteisio ar rai o’r digwyddiadau rhad ac am ddim a gynhelir gan Syniadau Mawr Cymru sydd ar gael i unrhyw un 16-25 oed yng Nghymru sydd â syniad am fusnes, gan gynnwys Bwtcamp i Fusnes ac wythnos Cychwyn Busnes yr Haf.  Nod y ddau ddigwyddiad yw cysylltu egin entrepreneuriaid â phobl fusnes llwyddiannus i gael cefnogaeth wrth iddynt roi eu busnes ar ben ffordd.

Meddai Katherine Lewis, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Yn 21 oed, mae Olaitan wedi cymryd rhywbeth mae’n ei garu a’i droi yn fusnes, gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgodd yn nigwyddiadau Syniadau Mawr Cymru i ddatblygu busnes cadarn. Mae’r esiampl wych o entrepreneur uchelgeisiol a phenderfynol, ac mae hynny’n sylfaen gwych ar gyfer tyfu ei busnes. Mae ei brwdfrydedd naturiol a’i gallu i gael y gorau o bobl heb os yn mynd i wneud Practice What You Speak yn fenter lwyddiannus am flynyddoedd lawer.”