Oliver Page
PAGEPROMO
Trosolwg:
Cyd-berchennog brand ategolion i ddynion. Dadansoddwr busnes dan hyfforddiant.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerffili

Gadewais i’r ysgol yn 16 oed ac es i i’r coleg i astudio’r gyfraith, ond sylweddolais ar ôl ychydig o fisoedd nad dyna’r peth i fi.

Dechreuais fy nhaith i mewn i fusnes fel gwerthwr, gan dreulio pedair blynedd yn gwerthu ymbarelau i rai o gwmnïau mwyaf y byd. Yna rhoddais i brawf ar fy sgiliau gwerthu yn Awstralia, cyn dod yn ôl i Brydain i weithio i gwmni ymbarelau iBrolly.

Dwy flynedd yn nes ymlaen, wedi darganfod fy mod yn mynd i fod yn dad, sefydlais i fy nghwmni fy hun, Pagepromo, yn 2013. Wedyn sefydlais i gwmni ychwanegiadau chwaraeon o’r enw Cubic Muscle a dwy flynedd ar ôl hynny, cefais gynnig y cyfle i weithio mewn ysgolion yn addysgu myfyrwyr am entrepreneuriaeth.

Nid wyf erioed wedi rhoi’r gorau, ac mae’r adborth i’m gwaith i yn 100% gadarnhaol.

 

Ffactorau Llwyddiant: Deall fy niwydiant yn drylwyr; defnyddio fy mhrofiadau personol fy hun; deall anghenion a disgwyliadau fy nghwsmeriaid

Sgiliau Busnes: Cychwyn Busnesau; Masnach Ryngwladol; Masnachu Ar-lein; Busnesau Di-elw