Osian Roberts
Osian Roberts
Celf Osian
Trosolwg:
Artist Animeiddio
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Ynys Môn

Mae artist ifanc o Fôn wedi dod i amlygrwydd ledled y wlad am ei animeiddiadau 2D addysgol sy’n taflu goleuni newydd ar hanes a diwylliant Cymru, diolch i gefnogaeth gan wasanaeth Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae Osian Roberts, sy’n 23 oed ac sydd wedi ennill gradd Meistr mewn animeiddio o Brifysgol De Cymru yn ddiweddar, eisoes wedi cydweithio â Golwg a gwasg y Lolfa ar brosiectau am hanes a diwylliant Cymru sydd wedi’u cynllunio i newid y ffordd rydyn ni’n cofio ein hanes hyd yma.

Ar ôl dal sylw sefydliadau blaenllaw ledled Cymru, mae Osian yn bwriadu datblygu ei waith animeiddiedig yn weithiau celf a phosteri llonydd gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, gan rewi ei fideos addysgol pwysig yn ddelweddau llonydd.

Mae siop Etsy ar-lein Osian, CelfOsian, a gafodd ei lansio y mis yma, yn cynnwys oriel o’i waith celf. Mae ei gynlluniau presennol yn cynnwys ‘Cariad Nid Casineb’ a chyfres o brintiau a ysbrydolwyd gan lên gwerin a llenyddiaeth gynnar y Mabinogion, sy’n cynnwys cymeriadau Gwragedd Annwn a Branwen.

Drwy werthu ei gelf, mae Osian yn gobeithio sbarduno sgyrsiau pwysig ac addysgu cynulleidfaoedd am ddiwylliant a hanes Cymru yng nghartrefi ei gwsmeriaid.

Mae printiau Osian yn amrywio o £6 am brint maint A5 i £40 am ddyluniadau argraffiad cyfyngedig mwy o faint. Mae Osian hefyd yn croesawu comisiynau i wneud gwaith animeiddio, sy’n amrywio mewn pris o £30-£100 yn dibynnu ar y dyluniad, yr amserlen a’r maint.

Dechreuodd Osian arbenigo mewn celf wrth astudio gradd israddedig mewn animeiddio ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Dyma lle dechreuodd Osian, sy’n Gymro balch ag angerdd dros yr iaith, fynegi ei dreftadaeth drwy sgetsys sy’n symud.

Meddai Osian: “Yn ystod fy ail flwyddyn o astudio ym Manceinion y dos i’n ansicr be o’n i eisiau ei neud yn fy nghwrs gradd. Unwaith i fi ddechrau braslunio celf Gymreig, o’n i’n mwynhau’r broses greadigol yn fawr. Mae animeiddio yn ffordd wych o rannu straeon a hanes pwysig efo unrhyw grŵp oedran gan fod animeiddio yn iaith sy’n cyrraedd pawb, dw i’n teimlo. Ar ôl sylweddoli hyn, mi ges i deimlad o ddyletswydd aruthrol i droi fy angerdd dros hanes Cymru yn llwyfan addysgol.

“Unwaith i fi roi fy mryd ar gelf Gymreig, o’n i’n gwybod fy mod i eisiau i hanes fod yn ganolbwynt i fy ngwaith wrth symud ymlaen. Y peth cyntaf ddaeth i’r meddwl yn syth oedd boddi Tryweryn yn y chwedegau, a ddigwyddodd lai na 23 munud o deithio o fy nghartre’. Es i ati efo fy iPad a fy meiro i ail-lunio hanes.”

Hyd yma mae ‘Tryweryn’, ffilm animeiddiedig 2D Osian a ddatblygwyd ganddo fel ei brosiect mawr olaf ym mis Mehefin 2021, wedi cael ei gwylio dros 8,800 o weithiau ar Youtube ac wedi cael sylw ar BBC Radio Wales yn ogystal ag mewn gwyliau ffilm fel Gŵyl Animeiddio Caerdydd, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caerdydd a Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Llydaw. Cyrhaeddodd ‘Tryweryn’ gynulleidfaoedd yn Serbia hyd yn oed, fel rhan o Ŵyl Ffilmiau Ryngwladol Cidwm Cymru yn 2022.

Ar ôl graddio, symudodd Osian i Gaerdydd i gwblhau gradd meistr mewn animeiddio a chreu ei ail ffilm ‘Rhannwch y Baich’, animeiddiad 4 munud o hyd yn addysgu cynulleidfaoedd am gyfraddau hunanladdiad cynyddol ymysg ffermwyr yn y gogledd.

Yn ogystal â gweithio gyda Sefydliad DPJ i gasglu gwybodaeth am iechyd meddwl y gymuned amaeth wrywaidd, cafodd Osian gyfle i gydweithio gydag Isla Jasmine Blake, myfyrwraig cerdd ym Mhrifysgol Manceinion a gyfansoddodd y trac ar gyfer ffilm fer gyntaf Osian, ‘Tryweryn’.

Enillodd ‘Rhannwch y Baich’, sy’n cynnwys troslais gan ffermwyr yn trafod lles meddyliol, Wobr y Beirniaid a’r animeiddiad gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Cidwm Cymru yn 2022.

Mae Osian wedi cael y fraint o ddod â’i gelf animeiddiedig i mewn i’w waith gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf drwy deithio o amgylch ysgolion i greu prosiectau newydd sy’n addysgu plant ar bopeth o droseddau casineb i bwysigrwydd y Gymraeg.

Yn ogystal â’i ffilmiau byr poblogaidd a’i waith parhaus gyda’r Fenter, mae Osian wedi gweithio ar amrywiaeth o weithiau celf comisiwn, gan gynnwys gwaith celf ar gyfer dau lyfr mewn partneriaeth â gwasg y Lolfa, a chywaith arbennig gyda Golwg ar gyfer clawr rhifyn Nadolig y cylchgrawn. Mae Osian yn gobeithio parhau i gydweithio gyda sefydliadau cenedlaethol i ledaenu negeseuon pwysig ar draws y wlad.

Lansiodd Osian ei fusnes gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Busnes Cymru, sydd â’r nod o gefnogi unrhyw un rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o’i hymrwymiad i’r Gwarant i Bobl Ifanc.

Daeth Osian i wybod am Syniadau Mawr Cymru ar ôl gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, ar ôl cael anhawster dod o hyd i waith fel unigolyn ifanc creadigol ar Ynys Môn. Ar ôl cysylltu â Syniadau Mawr Cymru y llynedd, cafodd Osian ei bartneru â’r ymgynghorydd busnes, Niamh Ferron, a bu’r ddau’n cynnal galwadau ar-lein wythnosol rheolaidd â’i gilydd i greu braslun o ddyfodol ei fusnes.

Wrth drafod y gefnogaeth a gafodd gan Syniadau Mawr Cymru, meddai Osian: “Dw i wedi gweithio efo amrywiaeth o sefydliadau a busnesau gwahanol drwy gydol fy ngradd, ond pan ddaeth hi’n amser sefydlu fy musnes fy hun, o’n i’n hollol ddi-glem. Doedd gen i ddim hyd yn oed siop ar gyfer fy nghelf.

“I fi, mae siop CelfOsian ar Etsy yn rhywbeth sy’n caniatáu i fi rannu fy ngwaith efo pobl ar draws y byd. Dros y misoedd nesa’ dw i'n gobeithio adeiladu gwefan hefyd, lle fydd pobl yn gallu cysylltu efo fi i gydweithio ar bopeth o waith wedi'i gomisiynu i weithdai. Mi fyddai hefyd yn oriel ar gyfer fy ngwaith ac yn wefan arall ar gyfer gwerthu fy nghelf.”

Yn ystod eu galwadau un-i-un wythnosol, cefnogodd Niamh Osian i ddrafftio cynllun busnes, cofrestru fel busnes ac agor siop Etsy. Fe wnaeth Niamh hefyd annog Osian i wneud cais am y Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc gwerth £2,000, a gwnaeth hynny ym mis Tachwedd 2022.

Yn dilyn cais llwyddiannus, defnyddiodd Osian yr arian i brynu offer newydd a fydd yn ei helpu i ddatblygu ac argraffu ei ddyluniadau ac adeiladu gwefan broffesiynol. Roedd Osian yn ddiolchgar am allu defnyddio ei grant yn syth ar ôl ei sicrhau ym mis Rhagfyr 2022 tra roedd yn gweithio ar brosiect gyda Menter Môn, cywaith a arweiniodd Osian i sicrhau swydd gyda Menter Rhondda Cynon Taf ym mis Ionawr eleni.

Wrth drafod llwyddiant Osian, meddai Niamh ei ymgynghorydd busnes: “Mae Osian yn enghraifft wych o rywun yn defnyddio’r holl gefnogaeth sydd ar gael iddo. Mae’n profi y gallwch weithio ym mha bynnag ddiwydiant rydych yn ei hoffi a dal i ddod yn ôl i Gymru i wneud hynny, gan lenwi bwlch yn sîn celf animeiddiedig Cymru. Mae ei waith yn dod â phynciau pwysig i’n sylw ac alla i ddim aros i weld pa sgyrsiau sy’n codi o waith Osian yn y dyfodol.”

Dros y misoedd nesaf mae Osian yn gobeithio sicrhau cyllid ar gyfer ei drydedd ffilm a fydd yn taflu goleuni ar ddiwylliant Cymru y tu hwnt i’r ffin. Mae ganddo hefyd nifer o brosiectau cyffrous wedi’u comisiynu a fydd yn cael eu datgelu dros y misoedd nesaf. Cadwch lygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol CelfOsian am ragor o wybodaeth.