Parag Patel
Funding Empire
Trosolwg:
Darparu gwasanaethau mentora, cymorth a chanllawiau i fusnesau newydd
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerffili

Cychwynnais fy musnesau cyntaf o fewn mis o raddio o'r brifysgol. Cyn hynny, ro’n i’n gweithio yn y busnes fferyllfa teuluol, a roddodd yr awydd i mi ddechrau fy musnes fy hun.  Cododd cyfle i gychwyn archfarchnad, ac fe wnes i hynny, ac yn y diwedd roedd ganddo 40 o staff a throsiant o £1m.
 
Byddwch yn barod i aberthu popeth os ydych chi wir eisiau cychwyn eich busnes eich hun a gwneud iddo lwyddo.
Parag Patel - Funding Empire
 
Mae fy musnes cyfredol yn llwyfan ar-lein sy'n cysylltu busnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes sy’n ceisio benthyciadau, gydag unigolion sydd eisiau rhoi benthyg eu harian a chael gwell adenillion.  Ni oedd llwyfan cyllid tyrfa cyntaf Cymru.  Rwyf hefyd yn rhan o elusen o'r enw Vision 21, sy'n helpu pobl ifanc i ennill sgiliau cyflogadwy.