Peter Price
A Frame Photography
Trosolwg:
Ffotograffiaeth gyffredinol sy’n arbenigo mewn lluniau o forluniau a moroedd
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Cefais radd dosbarth cyntaf ac MSc mewn dylunio diwydiannol, ond pan nad oeddwn yn gallu dod o hyd i swydd, es i deithio am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw y datblygodd fy mrwdfrydedd am ffotograffiaeth a phenderfynais fy mod eisiau datblygu hynny i fod yn yrfa. Mae A Frame Photography bellach yn darparu ffotograffiaeth gyffredinol, ond mae hefyd yn arbenigo mewn morluniau lleol a gwaith celf môr – gan gynnwys casgliad Cymru o'r Môr sef yr unig un o'i fath yn y DU, sy’n cynnwys lluniau a dynnwyd o'r tu mewn i donnau o amgylch ein harfordir.

Byddwch yn anturus ond yn realistig; byddwch yn wahanol a sicrhewch eich bod yn fwy unigryw na’ch cystadleuaeth; symudwch gyda'r oes a chroesawch newid.

Peter Price - A Frame Photography 

Bu llawer o anawsterau ar hyd y ffordd: fe wnaeth y dirwasgiad effeithio ar gynhyrchion nad ydynt yn hanfodol, ac mae technoleg sy'n newid yn gyflym wedi gwneud pethau’n heriol. Ond rwyf wedi dysgu addasu. 

Gwefan: www.aframephotography.co.uk/