Quinn Birkholz
Quinn Birkholz
Cwil Creative Ltd
Trosolwg:
Mae Cwil Creative yn asiantaeth cynnwys digidol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol

Mae Cwil Creative yn asiantaeth cynnwys digidol sy'n cael ei rhedeg gan y sawl sydd wedi’i chreu sy'n cynnig atebion digidol cyflawn sy'n amrywio o fideograffeg i farchnata, gan ganolbwyntio ar gefnogi pobl nad ydynt wedi arfer gweld eu lleisiau'n cael eu clywed drwy gyfrwng digidol.

Dechreuais y busnes oherwydd roeddwn i'n teimlo bod llawer o gwmnïau marchnata yn tueddu i ganolbwyntio ar arferion tebyg iawn o gefnogi endidau corfforaethol mewn ffyrdd traddodiadol – ac roeddwn i eisiau cyflwyno marchnata anghonfensiynol i'r maes marchnata, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio technegau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol arloesol, a rhoi cyfle i leisiau ac unigolion sy'n ei chael hi'n anodd cael llais digidol.

Doeddwn i ddim yn teimlo bod llawer o asiantaethau cynnwys digidol ar gael a oedd yn cael eu rhedeg gan y sawl oedd wedi’u creu ac a oedd â ffocws cymunedol cryf. Felly roeddwn am greu busnes oedd yn apelio’n fawr oherwydd ei fod yn cael ei redeg gan y sawl sydd wedi’i greu ac yn canolbwyntio ar agweddau ar farchnata digidol fel YouTube, a marchnata trwy ddylanwadwyr, nad ydynt yn cael eu cynrychioli mor amlwg gan asiantaethau eraill , ond hefyd â chenhadaeth gadarn: helpu unigolion, busnesau a mudiadau i gael llais digidol.

Roedd lansio yn ystod covid yn bendant yn golygu ein bod wedi wynebu heriau - ond rydym yn benderfynol, ac rydym yn gweithio'n galed i helpu pobl i ddod o hyd i'w llais ar-lein, yn ystod cyfnod pan fo bod ar-lein yn bwysicach nag erioed.

Rwyf wrth fy modd yn cael rhyddid llwyr gyda fy mhroses greadigol a chael gwneud yr hyn rwy'n teimlo sy'n iawn fel perchennog busnes; gan arddel arferion moesegol nad oeddwn yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli mewn busnesau eraill yr oeddwn yn arfer gweithio iddynt.

Gall dechrau busnes fod yn brofiad brawychus iawn, ond dydych chi ddim ar eich pen eich hun yn y broses hon – peidiwch â bod ofn gofyn am help a gofyn i eraill sydd wedi mentro o’ch blaen.

Meysydd arbenigedd: Marchnata, fideograffeg, hyfforddi creadigol ac ymgynghori, diwylliant/marchnata trwy ddylanwadwyr, YouTube, ac entrepreneuriaeth ryngwladol/fisas.