Mae dylunydd ffasiwn ifanc o Rogiet yn Sir Fynwy wedi troi straen y cyfnod clo yn llwyddiant busnes, gan sefydlu brand dillad ac ategolion yn ystod y pandemig a gwerthu cannoedd o fygydau yn barod.
Graddiodd Ruby Harry, 21 oed, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyda Dosbarth Cyntaf mewn Dylunio Ffasiwn, ac aeth ati i sefydlu ei busnes ei hun, Ruby Harry Design, fis yn unig ar ôl graddio. Gan werthu mygydau, bagiau defnydd, ategolion gwallt a bagiau colur, sefydlodd Ruby ei menter ei hun er mwyn gwneud defnydd da o’i gradd.
Sefydlodd Ruby ei busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, rhan o Fusnes Cymru, ac sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed a hoffai ddatblygu syniad am fusnes.
Meddai Ruby: “Mi wnes raddio ym mis Mehefin ac oherwydd y pandemig roedd y siawns o gael swydd yn isel, felly mi benderfynais gychwyn fy musnes fy hun. Mi wnes i sylweddoli bod galw am fygydau, ac roeddwn yn awyddus i greu dyluniadau ffasiwn moethus blaengar a oedd hefyd yn cynnig yr amddiffyniad angenrheidiol i bobl.”
Mae pris mygydau Ruby yn dechrau o £6 ac maent wedi’u gwneud â llaw i archeb. Maent yn cynnwys tair haen o amddiffyniad ac maent ar gael mewn dewis eang o ddeunyddiau a phrintiau. Mae hefyd yn cynnig mygydau moethus sy’n cynnwys secwins a rhubanau i roi cyffyrddiad arbennig. Mae Ruby wedi gwerthu dros 400 o fygydau eisoes, ac maent yn cael eu gwerthu gan Studio Meraki ym Mhorthsgiwed ac mae hi hefyd yn derbyn archebion drwy ei thudalen Instagram yn @rubyharrydesign, ac mae ganddi gynlluniau i werthu drwy ei gwefan ei hun yn fuan.
"Mewn cyn lleied â deufis roeddwn wedi gallu troi fy syniad yn fusnes ac rwyf mor hapus bod pethau’n mynd gystal. Rwyf wedi dysgu llawer ac rwyf yn mwynhau pob agwedd ar redeg busnes, o wnïo’r mygydau, rhedeg y sianelau cyfryngau cymdeithasol a’r wefan, postio’r eitemau a chyfathrebu â chwsmeriaid. Rwyf wedi gorfod dysgu cymaint mewn amser mor fyr, ond mae wedi rhoi cymaint o foddhad a phleser imi.”
Wrth sôn am Syniadau Mawr Cymru, meddai Ruby: “Mi glywais am y gwasanaeth drwy’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a roddodd fi mewn cysylltiad â chynghorydd busnes, Siân Davies.
“Roedd Siân wrth law gydol yr amser i ateb unrhyw gwestiynau oedd gen i, o lunio cynllun busnes i fy helpu i ddeall sut i dyfu’r busnes. Mae’r holl brofiad wedi bod yn help mawr, ac mae’n braf gwybod mai dim ond codi’r ffôn sydd angen imi ei wneud os ydw i angen rhagor o gyngor."
Meddai Siân Davies, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae bod braf gweld sut mae Ruby wedi llwyddo i lansio busnes llwyddiannus mewn dim ond ychydig fisoedd. Mi welodd fwlch yn y farchnad ac mae hi’n profi llwyddiant mawr â’i busnes er gwaethaf y pandemig. Dwi’n edrych ymlaen at weld lle bydd hi wedi’i gyrraedd ymhen ychydig fisoedd.”
Ym mis Gorffennaf, dechreuodd Ruby fynychu digwyddiad rhithiol Bwtcamp wythnos o hyd a drefnwyd gan Ganolfan Entrepreneuriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer myfyrwyr cyfredol a rhai newydd raddio i lansio neu dyfu eu busnesau. Yn dilyn y Bwtcamp, llwyddodd Ruby i sicrhau cyllid drwy gynllun Prifysgolion Santander.
Wrth feddwl am ei huchelgais am ddyfodol ei brand dylunio, meddai Ruby: “Rwyf yn gobeithio gallu ehangu nifer y cynnyrch sydd gennyf i’w gynnig a dylunio casgliad dillad cynaliadwy, sydd wedi bod yn freuddwyd fawr imi o’r cychwyn cyntaf.”
Am ragor o wybodaeth am Ruby Harry ewch i: https://www.rubyharryfashion.com/