Daeth y syniad am House of Callaway, sy’n gwerthu sawl math gwahanol o lieiniau mislif, i Sarah Callaway, 20, a Mike Pitman, 23, tra roeddent yn y brifysgol, gan ddod â’r busnes yn fyw gyda chyngor a chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru. Eu hysbrydoliaeth oedd pryderon Sarah ynghylch cynhyrchion mislif tafladwy traddodiadol.
Dywedodd Mike: “Sefydlon ni’r busnes wrth gydbwyso’n hastudiaethau prifysgol, a hwn oedd ein cynnig cyntaf ar sefydlu menter ar ein pennau ein hunain felly roedd angen cymorth ymarferol a chyngor arnon ni.
"Cysylltodd Syniadau Mawr Cymru ni â chwrs unigol gyda chynghorydd, a drafododd gyda ni bob agwedd ar gychwyn busnes yn llwyddiannus. Aethon ni drwy bopeth o bethau bach fel llunio cynnig cryno i dasgau mawr fel ein cynllun marchnata hirdymor."