Sarah Morgan
Sarah Morgan
Eco-Explore Education
Trosolwg:
Busnes addysg eco
Sectorau:
Gwyddorau bywyd
Rhanbarth:
Blaenau Gwent

Mae mam ifanc llawn menter o Flaenau Gwent wedi cychwyn ei busnes addysg eco ei hunan i helpu plant ag awtistiaeth ddarganfod natur Cymru, ar ôl i'w mab gael diagnosis o'r cyflwr.  

Sefydlodd Sarah Morgan, 24 o Abertyleri, ‘Eco-Explore Education’, gweithdy gwyddor bywyd i ddysgu plant awtistig am ryfeddodau natur Cymru ar ôl ennill gradd mewn Ecoleg o Brifysgol Caerdydd.  

Yn ystod ei thrydedd blwyddyn yn y brifysgol, roedd yn rhaid i Sarah fwrw ymlaen â gwaith ar ei thraethawd hir a hefyd geisio deall pam nad oedd ei mab, Robbie, 8, yn setlo yn yr ysgol.  Ar ôl profion, cafodd Robbie ddiagnosis o awtistiaeth, a oedd yn egluro pam ei fod yn cael trafferth i ddygymod ag addysg brif ffrwd.  

Ar ôl diagnosis Robbie, cymerodd Sarah seibiant byr o’i hastudiaethau i geisio dygymod â diagnosis ei mab a dechreuodd bwyso a mesur pethau.

Diolch i gariad y ddau at natur, treuliodd Sarah a Robbie lawer o’r hamser rhydd yn yr awyr iach yn archwilio'r byd mawr o’u cwmpas.   Sylweddolodd Sarah’n fuan bod Robbie, pan oedd allan ym myd natur, yn llawer mwy hamddenol ac yn cyfathrebu’n llawer gwell nag arfer.  

Pan aeth yn ôl i’r brifysgol, roedd Sarah mor benderfynol o helpu ei mab a phlant eraill gydag awtistiaeth nes iddi sefydlu Eco-Explore Education fis Medi y llynedd, yn seilieidig ar ei hangerdd hi a Robbie am ecoleg.

Mae sesiynau gweithdai Eco-Explore Education yn annog pobl ifanc ag awtistiaeth i fynd yn ôl at natur a bod yn chwilfrydig ynghylch y byd naturiol o'u cwmpas.  Mae Sarah'n dysgu grwpiau bychan i wneud bwydwyr adar, adnabod grwpiau o bryfed a phlannu blodau gwyllt ymysg eco-weithgareddau eraill.  

Wrth sôn am ddatblygiad ei busnes, meddai Sarah: “Cyn diagnosis fy mab, doedd gen i ddim profiad o awtistiaeth mewn gwirionedd.  Ond buan iawn y deuais i ddeall y bydd plant ag awtistiaeth yn cael trafferth dygymod mewn ysgolion prif ffrwd ac nad ydyn nhw, bob amser, yn cael cyfle i fynegi eu hunain.  

 

“Roeddwn i'n poeni cryn dipyn na fyddai’n gallu mwynhau dysgu oherwydd nad oedd hynny’n siwtio ei anghenion.  

 

“Fe sefydlais i Eco-Explore Education i alluogi plant i fod yn rhydd, i ofyn llawer o gwestiynau ac i gymryd rhan mewn gwyddorau bywyd, rhywbeth sydd mor sylfaenol i’n bywydau bob dydd”.  

Ers sefydlu Eco-Explore Education, mae Sarah wedi bod yn gweithio gydag elusennau awtistiaeth yng Nghymru a grwpiau scowtiaid lleol, yn rhedeg gweithdai a rhannu ei chariad at natur gyda phlant a'u rhieni.  

Mae hefyd yn trafod cael arian gan Blant mewn Angen i gynnig sesiynau rhad ac am ddim, a fyddai'n galluogi plant o bob cefndir a gallu i gymryd rhan.  

Ac meddai Sarah ymhellach:

“Mae gan bobl ag awtistiaeth gymaint o sgiliau i’w cynnig i gyflogwyr ond mae ystadegau cyflogaeth yn dangos efallai nad ydyn nhw’n cael y cyfleoedd iawn.  

Mae fy musnes yn dal i dyfu ar hyn o bryd ond os galla i leihau dim ond ychydig ar y ffigurau hynny, fe fydda i’n ceisio gwneud hynny.

Rwy’n ddiolchgar fy mod yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth wych gan Syniadau Mawr Cymru ac Ymddiriedolaeth y Tywysog i ymestyn Eco-Explore Education ymhellach, mae'r dyfodol yn edrych yn addawol."

 


Am wybod mwy am beth sydd angen i ddilyn ôl troed Sarah a dechrau dy fusnes dy hun? Cymer olwg ar Lwybr Entrepreneuriaeth Syniadau Mawr Cymru i ddysgu am dy hun, am fusnes, a lle i droi am yr help yr wyt angen i droi syniadau busnes i mewn i realiti.