Sean Mayor - Dog Adventure Land
Sean Mayor
Dog Adventure Land
Trosolwg:
Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored i Gŵn
Rhanbarth:
Bro Morgannwg

Entrepreneur ifanc yn profi bod unrhyw beth yn bosibl ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus yn ei ganolfan gweithgareddau cŵn

Mae entrepreneur 23 oed o Sili a ddechreuodd fusnes cerdded cŵn pan oedd yn 13 oed, bellach yn dathlu pen-blwydd cyntaf agor canolfan gweithgareddau awyr agored i gŵn, ac mae’n gobeithio tyfu ei fusnes yn y tymor hir.

Lansiodd Sean Mayor Dog Adventure Land, canolfan gweithgareddau awyr agored ddi-straen ar gyfer cŵn ym mis Mehefin 2021 mewn ymateb i’r pryder cymdeithasol a phryder ynghylch gwahanu a brofir gan gŵn bach a chŵn ifanc a gafodd eu geni yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Wedi’i ddatblygu i fod yn gartref i hyd at 25 o gŵn o bob rhan o Fro Morgannwg bob dydd, mae Dog Adventure Land yn cynnig amrywiaeth o byllau tywod, caeau mawr, gweithgareddau ystwytho a soffas dan do gyda gwresogyddion i’w mwynhau, i gyd cyn cael bath a dychwelyd adref i’w perchnogion fel rhan o’r gwasanaeth casglu a dychwelyd dibynadwy. Cafodd Dog Adventure Land ei greu yn dilyn busnes cerdded cŵn llwyddiannus Sean, PB Dog Care, pan oedd o’n barod i ehangu ei fusnes ar ôl mwy na 5,000 o deithiau cerdded dros y ddegawd diwethaf.

Yn y naw mis diwethaf, mae Dog Adventure Land wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol fel yr unig ganolfan gofal dydd yng Nghymru ar gyfer cŵn sy’n gweithredu yn yr awyr agored yn bennaf. Ond mae gan yr entrepreneur sydd wedi dysgu ei hun gynlluniau twf busnes helaeth, gyda’r nod o agor tri lleoliad newydd y tu allan i Fro Morgannwg dros y pum mlynedd nesaf er mwyn ymateb i’r galw y mae eisoes yn ei weld.

Wrth siarad am ddechrau ei yrfa yn y diwydiant gofal dydd i gŵn, dywedodd Sean: “Mae gofalu am gŵn wastad wedi bod yn rhywbeth rwy’n teimlo’n  frwdfrydig yn ei gylch, ond fyddwn i byth wedi dychmygu y byddai’r hyn a ddechreuodd fel busnes bach cerdded cŵn pan oeddwn i yn fy arddegau yn arwain at yrfa pellach yn y diwydiant gofal cŵn.

“Pan lansiwyd Dog Adventure Land, roedd gennym dri ci yn ein gofal bob dydd. Ein ffocws oedd rhoi amgylchedd naturiol i gŵn fod yn nhw eu hunain, gan roi hwb i’w sgiliau cymdeithasol ar yr un pryd. Yn bwysicaf oll, roeddem am eu rhyddhau o’u pryder ynghylch gwahanu drwy roi trefn reolaidd iddynt. Mae ein hymroddiad a’n hangerdd wedi ein helpu i fod yn gyfleuster gofal cŵn blaenllaw ym Mro Morgannwg, gyda hyd at o 25 o gŵn yn ein gofal bob dydd.”

Lansiodd Sean Dog Adventure Land gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o Busnes Cymru ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru.  Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion yn rhan o’r ymrwymiad i’r Gwarant i Bobl Ifanc,

Daeth Sean i wybod am Syniadau Mawr Cymru am y tro cyntaf pan ddaeth un o fodelau rôl y gwasanaeth i ymweld â’i ysgol i drafod ei daith bersonol wrth lansio busnes. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cysylltodd Sean â Syniadau Mawr Cymru ei hun a chafodd ei baru’n syth â chynghorydd busnes a fu’n ei helpu i gynllunio a dechrau lansio ei fusnes – o ysgrifennu cynllun busnes i wneud cais i gofrestru tir. Wrth i’r busnes ddechrau tyfu, tyfodd gwaith Sean gyda’r Cynghorydd Busnes Mark Adams hefyd, a oedd wrth law i’w gefnogi i greu a chynnal cyfrifon elw a cholled a chynlluniau datblygu busnes.

Y gefnogaeth hon a ysbrydolodd Sean i ddod yn fodel rôl i Syniadau Mawr Cymru yn ddiweddar, gan gyfnewid cŵn bach am ddisgyblion wrth iddo fynd yn ôl i’r ysgol i gynnig cyngor i entrepreneuriaid ifanc sy’n awyddus i adeiladu busnes llwyddiannus hefyd.

Dywedodd Sean: “Rwy’n awyddus i rannu fy mhrofiad fel entrepreneur ifanc ac ysbrydoli eraill. Dydw i ddim yn berson academaidd, ond rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i adeiladu fy musnes ffyniannus fy hun er gwaethaf hyn, ac mae’n bwysig bod pobl ifanc o’r un anian yn sylweddoli ei bod hi’n bosib llwyddo hyd yn oed os byddwch chi’n crwydro oddi wrth y norm academaidd ac yn dilyn eich nodau personol. Diolch i gymorth gwych Syniadau Mawr Cymru a fy nhîm arbennig yn Dog Adventure Land tîm am lwyddiant aruthrol y busnes, yn enwedig Matthew, y rheolwr gofal dydd, am y penderfyniad a’r brwdfrydedd y maen ei roi i’n breuddwyd bob dydd.”

Yn ogystal â safleoedd newydd, mae gan Sean gynlluniau i gyflwyno cyfleusterau a dosbarthiadau hyfforddi cŵn, yn ogystal â llety dros nos i’r gwasanaethau a gynigir gan Dog Adventure Land.

Wrth siarad am ei lwyddiannau, dywedodd Carolyn Goodwin o Syniadau Mawr Cymru: “Fe wnaeth Sean adeiladu busnes cerdded cŵn llwyddiannus ar ei ben ei hun tra oedd yn yr ysgol, ond mae’n ganmoladwy ei fod yn dal i geisio cymorth gan Syniadau Mawr Cymru wrth lansio Dog Adventure Land. Mae Syniadau Mawr Cymru ar gael i’ch cefnogi chi ym mhob eiliad o’ch taith fusnes, ac mae Sean yn brawf gwych o hyn. Edrychaf ymlaen at weld twf y ddau fusnes a gweld Sean yn ysbrydoli eraill fel model rôl.”