Shauna Guinn photo
Shauna Guinn
Hang Fire Southern Kitchen
Trosolwg:
Mae Hang Fire Southern Kitchen yn bodoli oherwydd yr ymdeimlad hwnnw o beidio â rhoi’r gorau i’r freuddwyd o ddilyn eich mympwy eich hun. Ein gweledigaeth ni oedd rhedeg bwyty bychan sy’n dibynnu’n llwyr ar gynnyrch ffres, cydwybodol
Sectorau:
Bwyd a diod

Helo, SHG ydw i, Raconteur Bwyd Stryd, Awdur a Rheolwr Bwyty.

Pam bod ag un yrfa pan fedrir cael tair? Ar ôl bod yn Weithiwr Cymdeithasol ac yn Ddarlithydd mewn Prifysgol, rhoddais y gorau i fy swydd 9 tan 5 yn 2013 er mwyn mynd ar drip ar draws America gyda fy nghyd-anturiaethwr Samantha Evans i ddysgu am gyfrinachau Barbeciw Americanaidd ac i gyfarfod Dolly Parton. Mewn dim ond 5 mlynedd roeddem ni wedi ennill Gwobr Bwyd a Ffermio’r BBC am ein Bwyd Stryd, cyhoeddi ein llyfr coginio cyntaf ac agor bwyty Hang Fire Southern Kitchen yn nhref glan môr y Bari. Yn 2017 fe ffilmiwyd cyfres gyntaf ein rhaglen deledu sydd ar ei ffordd i’r BBC - 'Sam and Shauna's Big Cookout'. Rhaid i chi hoffi cîg i fy hoffi fi!