Sion Emlyn Davies photo
Siôn Emlyn Davies
Arfordir Clothing
Trosolwg:
Mae Dillad Arfordir Clothing yn frand dillad Cymreig a grëwyd ar Ynys Môn, yng Ngogledd Cymru.
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Ynys Môn

Mae Dillad Arfordir Clothing yn frand o Ogledd Cymru gyda’r iaith Gymraeg yn ganolog iddo. Rydym yn darparu amrywiaeth o ddilladau sy’n cynnwys dillad campfa, dillad awyr agored, dillad ymlacio a dillad glan y môr. Rydym ym Mharc Gwyddoniaeth Menai ar Ynys Môn ac wedi bod yn masnachu ers bron i 2 flynedd. Siôn Emlyn Davies a Siôn Owen sy’n rhedeg y brand ac ar hyn o bryd, rydym yn rhannu ein hamser rhwng ein hastudiaethau yn y Brifysgol a gweithio’n rhan amser ar y busnes. Mae’r brand wedi tyfu’n sylweddol ers ei gychwyn pan oedden ni yn yr ysgol, ac rydyn ni’n cael ein hadnabod fel ‘y gwaith cartref a drodd yn fusnes’. O gymryd rhan ar S4C Heno, i BBC Radio Cymru, yn ddiweddar cysylltodd y rhaglen BBC One “Young, Welsh and Bossin’ it” gyda ni - a gafodd dros 1 miliwn o wylwyr yn y gyfres gyntaf.  Fel busnes Cymreig sy’n tyfu, rydym am fod yn frand Cymru, mae gennym archebion yn ein cyrraedd o bob cwr o’r byd oherwydd y gwerth mae’r iaith Gymraeg yn ei ychwanegu i’r brand.

Cychwynnodd y syniad yn yr ysgol lle’r oedd raid i ni gymryd rhan yn y cwrs Bagloriaeth Cymru lle roedd yn rhaid i ni greu ein busnes ein hunain o ddim. Daeth yr awydd i gychwyn ein brand dillad ein hunain i ni, dyna ddigwyddodd a dyma ni. Cafodd y busnes ei gyflwyno ar gyfer cystadleuaeth Dathlu Syniadau Mawr Cymru ac roeddem yn ffodus i ennill y wobr am y sgiliau busnes gorau.  Mae’r gweddill yn hanes, fel maen nhw’n ei ddweud.

Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r syniad oedd ein hathrawes, Mrs Sue Bracegirdle, a gafodd ddiagnosis ar y pryd o ganser y fron yn anffodus, dywedodd wrthym am fynd amdani, a hyd heddiw mae ei geiriau wedi ein hysbrydoli ac yn ein gyrru i gyflawni pethau mawr.

Y broblem amlwg a oedd yn codi, oedd ein diffyg profiad. Dim ond 16 oed oedden ni pan ddechreuon ni, ac yn hollol ddibrofiad o ran rhedeg ein busnes ein hunain. Dyma, fodd bynnag, yn fy marn i yw’r ffordd y dylai pobl ddysgu trwy wynebu problemau’n uniongyrchol.

Y peth gorau am fod yn fos arnoch eich hunan yw eich bod yn gallu creu busnes o rywbeth rydych yn angerddol amdano, hobi a rhywbeth rydych yn mwynhau ei wneud.

Y cyngor gorau y gallaf ei roi i entrepreneuriaid ifanc yw dechreuwch yn ifanc a phrofwch fusnes o oed cynnar, oherwydd dyna’r ffordd y dysgais i a chredaf mai dyma yw’r ffordd orau.

Arbenigwyr - Dechrau Busnes, Siarad, Twf Busnes, Yr Iaith Gymraeg mewn Busnes, Dillad,