Sioned Davies
Sioned Davies
Siop Sioned
Trosolwg:
Mae Siop Sioned yn gwerthu pob math o eitemau sydd wedi cael eu greu yn lleol, neu â chysylltiad Cymreig o emwaith, clustogau, fframiau a dodrefn wedi eu hail baentio - a’r cyfan o dan un tô.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Conwy

Dechreuais y busnes nôl yn 2016 yn 23 mlwydd oed ac ar ôl cael llond bol o weithio i rywun arall. Dwi wedi cael diddordeb mewn 'interiors' a lliwiau erioed felly bachais ar y cyfle i ddechrau fy musnes fy hun.

Roedd y lleoliad a gymerais drosodd yn arfer bod yn siop hen bethau a oedd yn cau, a chefais dipyn o'r silffoedd a dodrefn gan y cyn-berchnogion er mwyn gallu arddangos pethau yn fy siop. Dwi'n cofio wedi bod yma am fis imi feddwl 'sut dwi am wneud arian i fyw?' Roedd yr holl broses o agor y siop wedi digwydd o fewn 6 wythnos a doeddwn heb roi fawr o feddwl i'r busnes. Dyna pryd yr ysgrifennais fy nghynllun busnes a chanolbwyntio ar beth roeddwn yn ei hoffi ac isio ei werthu. Roedd hwnnw wedi helpu lot ac mae'n braf edrych yn ôl a thicio ychydig o’r pethau roeddwn wedi’i nodi yn y cynllun.

Ysbrydoliaeth... dwi ddim yn rhy siŵr pwy sydd yn fy ysbrydoli i fod yn hollol onest. Dwi'n meddwl beth sydd yn fy ysbrydoli ydi gweld pobl yn gweithio am yr hyn sydd ganddyn nhw; mae cael bywyd cyfforddus imi a fy nheulu a fy ngweithwyr yn rhywbeth gwerthfawr imi. Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig cael 'work-life balance' a mwynhau eich bywyd, ac mae rhedeg busnes fy hun wedi fy ngalluogi i wneud hyn. Os 'da chi’n mwynhau yr hyn 'da chi'n wneud mae bywyd yn eithaf braf.

Mae yna broblemau i’w datrys bob dydd - y mwyaf imi ydi cynnyrch ddim yn cyrraedd, neu gynnyrch wedi gwerthu allan a ddim yn gallu cael gafael ar fwy, a chael hyd i'r cynnyrch gorau sydd am werthu! Ond dwi wedi cael problemau mawr sydd angen delio â nhw hefyd; dwi'n meddwl fod y Pandemig Covid-19 wedi profi yn her sylweddol i lawer o fusnesau. Llwyddais i addasu fy ngwefan i werthu nwyddau mewn wythnos er mwyn gallu cario ‘mlaen, dwi erioed wedi gweithio mor galed yn fy mywyd yn gwneud hyn, ac i gael pobl i fynd arni i siopa. Mae hefyd yr heriau o geisio cael y gweithwyr gorau i'ch busnes gan wneud yn siwr bod ganddyn nhw’r sgiliau 'da chi eu hangen.

Y peth gorau am fod yn fos arnoch eich hun (ac ar ôl ychydig o flynyddoedd yn adeiladu'r busnes!) ydi y cewch ddewis eich oriau gwaith! Y darn gorau o'r busnes imi ydi cael mynd o gwmpas yn siopa a dewis cynnyrch hyfryd i werthu a chael cwrdd â phobl newydd bob dydd. Mae yna ddywediad 'If you do what you love, you'll never work a day in your life,’ ac imi mae hyn yn mor wir, er gymaint o cliché ydi o