Siwan Jones
Siwan Jones
Swyno
Trosolwg:
Gwasanaeth tanysgrifio llyfrau dwyieithog a chlwb llyfrau misol
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Gwynedd

Entrepreneur ifanc yn sgwennu’r bennod nesaf
wrth lansio gwasanaeth tanysgrifio llyfrau dwyieithog

Mae entrepreneur ifanc o ogledd Cymru wedi tynnu ar ei phrofiadau personol i ddatblygu busnes llyfrau dwyieithog sy’n darparu cymorth llesiant meddwl i bobl ledled Cymru.

Mae Siwan Jones, sy’n wreiddiol o Fangor, yn paratoi i lansio Swyno, gwasanaeth tanysgrifio llyfrau dwyieithog a chlwb llyfrau misol, gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Gan lansio'r mis hwn, bydd Swyno yn annog pobl ifanc i archwilio eu hiechyd meddwl trwy drochi eu hunain mewn llenyddiaeth berthnasol a dwyieithog. Bob mis, bydd Siwan, llyfrbryf angerddol a sylfaenydd Swyno, yn dewis llyfrau Cymraeg a Saesneg yn ofalus sy'n cynnwys themâu allweddol y mae hi'n gobeithio y gall pobl o bob oed uniaethu â nhw.

Gan ddechrau o £29 y mis (sy’n cynnwys cost postio) ac wedi’i gynllunio i helpu darllenwyr i ymgolli yn y llyfr, bydd Blwch Swyno yn cynnwys llyfr o ddewis, ochr yn ochr ag eitemau personol sy’n ymwneud â phynciau a golygfeydd allweddol o fewn y llyfr ei hun. Bydd rhai o flychau cyntaf Swyno yn cynnwys ‘Where the Crawdads Sing’ gan Delia Owens a ‘Tu Ôl i'r Awyr’ gan Megan Angharad Hunter i bob tanysgrifiwr sy’n siarad Cymraeg.

Datblygwyd Swyno mewn ymateb i gyfraddau hunanladdiad cynyddol, yn enwedig ymhlith dynion, ledled Cymru yn ystod y pandemig. Yn ystod 2021, adroddwyd 347 o hunanladdiadau yng Nghymru yn unig*. Roedd Siwan yn graddio o gwrs gradd cwnsela ym Mhrifysgol Bangor ar y pryd, lle cysegrodd ei modiwl therapi amgen i fibliotherapi; sef ffurf gost-effeithiol a hyblyg o therapi amgen sy'n helpu pobl i frwydro yn erbyn amrywiaeth o anawsterau iechyd meddwl trwy ddarllen.

Wrth siarad am ddatblygiad ei busnes, dywedodd Siwan: “Rwy’n cofio edrych ar fy nhref enedigol brydferth a meddwl mai dyma’r amser pan mae angen mwy o gefnogaeth nag erioed ar bobl. Rydw i wir yn credu bod pawb, yn enwedig Cymry Cymraeg, angen allfeydd newydd i ddeall eu lles meddyliol. Mae bibliotherapi yn ein galluogi i ddod â phynciau anodd i’r amlwg a thorri tabŵs heb orfod personoli ein profiadau.”

Mae bibliotherapi yn agos at galon Siwan, ar ôl iddi brofi ei fanteision, fel therapi a chysur, ar ddechrau 2022, pan ddioddefodd o Hyperemesis Gravidarum – cyfog a chwydu difrifol – pan yn feichiog, a arweiniodd at gamesgoriad.

Ni allai Siwan adael ei gwely ar y pryd, ond fe werthfawrogodd yn fawr y ffordd y gallai llyfrau ddarparu dihangfa iddi yn ystod cyfnod mor heriol. Atgyfnerthodd hynny nod Swyno, gan annog Siwan i fwrw ymlaen â lansiad ei busnes, sydd hefyd yn talu teyrnged i lenyddiaeth Gymraeg newydd sydd, yn ei barn hi, yn aml yn cael ei thanbrisio.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Siwan wedi bod yn derbyn cymorth gan Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o Busnes Cymru ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd eisiau datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o’i ymrwymiad i’r Gwarant i Bobl Ifanc.

Mae Siwan wedi bod yn gwneud defnydd o weithdai M-SParc Prifysgol Bangor, lle mae hi wedi bod yn datblygu Swyno ochr yn ochr â Kath Lewis, Cydlynydd Cychwyn Busnes i Raddedigion a rhan o B-Fentrus, gwasanaeth pwrpasol Prifysgol Bangor i gefnogi myfyrwyr a graddedigion i ddatblygu eu busnesau neu eu gyrfaoedd llawrydd eu hunain. Cyfeiriodd Kath Siwan at ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, Niamh Ferron, sydd wedi ei chefnogi i ddadansoddi’r camau sydd eu hangen i redeg busnes newydd llwyddiannus.

Ochr yn ochr â thywys Siwan drwy’r gwaith papur penodol sydd ei angen i gofrestru fel gweithiwr llawrydd a chymhwyso fel busnes cyfreithiol, mae Niamh hefyd wedi cyflwyno Siwan i Fodelau Rôl Syniadau Mawr Cymru sydd wedi rhoi cyfoeth o gyngor busnes uniongyrchol a mewnwelediadau iddi.

Wrth drafod y gefnogaeth a ddarparwyd gan Syniadau Mawr Cymru, dywedodd Siwan: “Rwyf wedi cael byddin gyfan o gefnogaeth o’r eiliad yr oedd Swyno yn sbarc bach o syniad. Ni allaf ddiolch digon i Kath am fy ngwthio'n gyson i gynhyrchu syniadau newydd a meddwl y tu allan i flwch ‘Swyno’. Rwyf hefyd mor ddiolchgar i Niamh a oedd wrth fy ochr i gynnig cymorth a chyngor wrth i mi lenwi gwaith papur cymhleth a gwneud cais am gyllid amhrisiadwy wrth fynd allan o’i ffordd i gyflwyno Modelau Rôl ysbrydoledig Syniadau Mawr Cymru i mi, a pherchnogion busnesau llenyddol sydd wedi bod yn ganolog i fy helpu o ran tyfu fy musnes.”

Dywedodd cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, Niamh: “Busnesau ysbrydoledig, fel Swyno, sy’n mynd ati i gefnogi cymunedau lleol a gwneud gwahaniaeth yng Nghymru, sydd wir yn gwneud ein gwaith yn werth chweil. Er mwyn adeiladu busnes a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc eraill, mae Siwan wedi gorfod cyrchu cymorth ei hun. Mae hi wedi defnyddio holl gymorth Syniadau Mawr Cymru, o wneud cais am gyllid i gyfarfod â Modelau Rôl. Rwy’n credu fy mod yn siarad ar ran fy hun a Kath pan ddwedaf ei bod wedi bod yn bleser cefnogi Siwan i lansio ei busnes, ac ni allaf aros i weld sut olwg sydd ar y blwch Swyno cyntaf.”

Cytunodd Kath gyda Niamh, gan ychwanegu: “Mae Swyno yn fenter fusnes hynod arloesol sy’n cynnig man i bobl archwilio eu hemosiynau a’u profiadau heb ofni cael eu hamlygu. Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr entrepreneuraidd, boed hynny trwy gyfarfodydd datblygu syniadau, lleoliadau gwaith llawrydd neu ofod deori am ddim yn M-SParc. Elwodd Siwan o’r gefnogaeth gydweithredol sydd wedi’i galluogi i adeiladu busnes llawn bri sy’n rhoi lle canolog i les pobl eraill. Dymunaf y gorau iddi gyda’i menter fusnes.”

Bydd lansiad Swyno yn cael ei ddathlu yn ystod cyfarfod digidol cyntaf clwb llyfrau Swyno, digwyddiad misol y mae Siwan yn gobeithio y bydd yn gweithredu fel hyb i bobl ifanc sy'n hoff o lyfrau ledled Cymru i archwilio eu hemosiynau'n agored gydag eraill. Mae Siwan yn breuddwydio am agor siop lyfrau a chaffi ym Mangor rhyw ddydd, lle gallai groesawu ei thanysgrifwyr i eistedd i lawr am goffi ac i ddarllen, mynychu sesiynau arwyddo llyfrau a sgyrsiau gan awduron Cymraeg poblogaidd, neu ymuno â gweithdai a gynhelir gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy’n ymwneud â thema allweddol llyfr y mis hwnnw.

A yw’r erthygl hon wedi eich ysbrydoli i roi eich syniad busnes ar waith? Ewch i Hafan | Busnes Cymru (gov.wales) er mwyn cychwyn arni.

I gael mwy o wybodaeth am gymorth iechyd meddwl, cysylltwch â llinell gymorth CALL. Mae’r llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd, ac mae’n gallu darparu cymorth a chyngor emosiynol cyfrinachol, a fydd yn eich helpu i gysylltu â’r cymorth sydd ar gael yn eich ardal leol. Y rhif Rhadffôn ar gyfer CALL yw 0800 132 737 neu gallwch anfon y gair ‘help’ trwy neges destun at 81066.