Steve Blakesley photo
Steve Blakesley
Space Rocket Roadshow
Trosolwg:
Gweithdai rhyngweithiol sy’n dod â gwyddoniaeth yn fyw.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Amrywiol
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Bues i'n athro cyn imi sefydlu Space Rocket Show. 

Fe welais fod bwlch yn y farchnad ar gyfer gweithdai rhyngweithiol a llawn hwyl sy'n dod â gwyddoniaeth yn fyw. 

Erbyn hyn, mae'r cwmni yn cyfoethogi'r cwricwlwm ym maes gwyddoniaeth mewn ysgolion - mae'r gweithdai yn trin a thrafod gwyddoniaeth materol, seryddiaeth, fforestydd glaw, trychinebau naturiol a llawer iawn o feysydd eraill.

"Dechreuwch astudio pobl: beth mae pobl yn ei hoffi? Beth sydd ei angen arnyn nhw? Pwy arall sy'n darparu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth yr ydych chi'n ei gynnig? Gwnewch eich ymchwil am y farchnad."

Steve Blakesley - Space Rocket Roadshow

Dim ond mewn ysgolion yng Nghymru yr oeddwn yn mynd iddyn nhw ar y dechrau, ond rydw i'n teithio cyn belled ag Essex, Norfolk a Lerpwl erbyn hyn.  

Yn y dyfodol, hoffwn ehangu'r busnes fel ein bod yn gweithio ledled y wlad a chynnig adnoddau penodol ar-lein.


Cysylltu gyda Steve