Stifyn Parri - The Role Model
Stifyn Parri
Mr Producer
Trosolwg:
Cynhyrchydd Creadigol, Cyflwynydd, Ymgynghorydd, Mentor, Diddanwr ac, wrth gwrs, Entrepreneur.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rydw i’n ddigon ffodus i gael dros 35 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol ac rydw i wedi gweithio fel Cynhyrchydd Creadigol, Cyflwynydd, Ymgynghorydd, Mentor, Diddanwr ac, wrth gwrs, Entrepreneur. Cafodd MR PRODUCER ei sefydlu yn 2001, ac rydw i hefyd wedi cynhyrchu rhai o ddigwyddiadau byw amlycaf Cymru megis Penwythnos Agoriadol Stadiwm y Mileniwm ar gyfer SKY 1 a Sky Arts, a’r Gala a oedd yn nodi hanner canrif ers Trychineb Aberfan yng Nghanolfan y Mileniwm, a hynny yng nghwmni Michael Sheen, Bryn Terfel a Sian Phillips.

Pan dydw i ddim yn diddanu, rydw i’n cyflwyno seminarau, gweithdai a sesiynau preifat sy’n ceisio magu hyder pobl wrth berfformio a datblygu technegau cyfweliad / clyweliad ar gyfer pobl o bob oed a gallu.

Mae bod yng nghwmni pobl sy'n rheoli eu tynged eu hunain yn fy ysbrydoli i’n fawr ac yn cael effaith gadarnhaol ar y ffordd rydw i’n gweithio.

Wrth reswm, mae’n rhaid i’r gwasanaethau rydw i’n eu cynnig addasu i dueddiadau, cleientiaid a’r hinsawdd sydd ohoni. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i mi fod yn greadigol bob amser. Mae bod yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg yn rhodd ac mae wedi agor nifer o ddrysau i mi yn fy ngyrfa dros y blynyddoedd.

Y peth gorau am fod yn fos arnaf i fy hun yw'r ffaith nad ydw i’n atebol i unrhyw un arall. Rydw i’n gallu cael gwared â'r bobl negyddol sydd rhyngof i a fy nod!

Byddwch yn ddewr, byddwch yn ddidwyll, byddwch yn wreiddiol a gwnewch eich gorau glas!