Sue Hayes
Creatives Meet
Trosolwg:
Mae Creatives Meet yn darparu gwasanaethau brandio, graffig a dylunio gwefannau hynod greadigol.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Ynys Môn

Mae Sue Hayes yn rhedeg CREATIVES MEET cwmni dylunio a brandio digidol llwyddiannus yn M-SParc, Gaerwen, Ynys Môn. Mae hi’n arbenigo mewn gweithio gydag entrepreneuriaid benywaidd ac mae hi wrth ei bodd yn adeiladu brandiau o’r cychwyn cyntaf a bydd hi’n siarad yn rheolaidd mewn seminarau a gweithdai am ei hoff bwnc! 

 

Mae gan Sue dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant dylunio ac mae wedi gweithio gyda channoedd o gwmnïau lleol yng Nghymru yn ystod ei gyrfa. Mae hi hefyd yn gweithio gyda brandiau  mawr adnabyddus ac mae ganddi gleientiaid o bob cwr o’r byd.