Tim Parker
Tim Parker
Sportfolio
Trosolwg:
App newydd sy’n rhoi myfyrwyr heini ar y marc
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae myfyriwr graddedig 24 oed o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi sefydlu busnes i helpu i gysylltu myfyrwyr athletaidd gyda chyfleoedd chwaraeon mewn prifysgolion.

Bydd app Tim Parker, Sportfolio, yn galluogi darpar fyfyrwyr i weld pa raglenni chwaraeon sydd gan wahanol brifysgolion ar hyd a lled y wlad i’w cynnig ochr yn ochr â’u cyrsiau gradd.

Sefydlodd Tim, sydd o Fryste yn wreiddiol, ei fusnes gyda help gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o Fusnes Cymru, ac sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed a hoffai ddatblygu syniad am fusnes.

                                                                                                                             

Fel pêl-droediwr brwd, sydd wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru a’r Europa League pan oedd yn y brifysgol, roedd chwaraeon yn rhan annatod o brofiad Tim o’r brifysgol. Gan wybod y byddai hynny’n wir am ei gyd-fyfyrwyr, lansiodd Tim Sportfolio fel platfform ar gyfer darpar fyfyrwyr i’w helpu wrth ddewis eu prifysgol.

 

Mae Sportfolio, a fydd yn cynnwys platfform ar y we hefyd, yn galluogi prifysgolion i farchnata eu rhaglenni a’u clybiau chwaraeon. Ar yr un pryd, gall myfyrwyr cyfredol neu ddarpar fyfyrwyr greu ‘portffolio chwaraeon’ i farchnata eu hunain i brifysgolion ac i edrych ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.

 

Un yn unig yw Tim o’r miloedd o fusnesau sydd wedi’u heffeithio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd gan y pandemig coronafeirws. Pan gaeodd y prifysgolion, roedd Tim yn poeni beth fyddai effaith hynny ar ei fusnes.

 

Meddai Tim: “Ar y dechrau, roeddwn yn poeni, ond yn awr rwyf yn credu y bydd Sportfolio yn gallu helpu mwy fyth o bobl. Mae cronfeydd llawer o glybiau chwaraeon yn brin sy’n golygu na fydd llawer o athletwyr yn gallu cael rhagor o gontractau neu ysgoloriaethau. Mae llawer o’r athletwyr hyn yn awr yn ansicr ynglŷn â’u camau nesaf a dyna lle gall Sportfolio helpu gan ei fod yn eu galluogi i gystadlu mewn chwaraeon at lefel uchel ar yr un pryd ag astudio am radd.”

"Gyda ffioedd prifysgolion wedi codi yn y degawd diwethaf, mae myfyrwyr am wybod a fyddant yn cael profiad positif a chyflawn yn eu prifysgol, ac i lawer mae hynny’n cynnwys ymuno â chlybiau neu gymdeithasau chwaraeon, yn ogystal â’u cyrsiau.

“Mae ymchwil i’r farchnad wedi dangos nad yw prifysgolion yn hyrwyddo digon ar chwaraeon ac nad yw myfyrwyr yn ymwybodol o ba gyfleoedd sydd ar gael o ran chwaraeon mewn prifysgolion. Gall Sportfolio helpu i gau’r bwlch hwnnw i ddarpar fyfyrwyr ac mi all gynnig cyfle i brifysgolion i farchnata eu rhaglenni chwaraeon amrywiol.”

Mae Tim yn cwrdd â phrifysgolion a cholegau ledled y DU, ac mae llawer ohonynt eisoes wedi cytuno i ymuno â phlatfform Sportfolio. Cyn hynny roedd Tim yn bresennol mewn digwyddiad a drefnwyd gan University UK yn yr Emirates Stadium i arddangos ei fusnes, a chofrestrodd dros 300 o fyfyrwyr i ymuno â Sportfolio mewn dim ond dwy awr.

Ychwanegodd Tim: "Mae mor gyffrous a chalonogol i weld bod gan gymaint o fyfyrwyr a phrifysgolion ddiddordeb yn yr ap. Mae cymaint o heriau a rhwystrau yn eich wynebu wrth sefydlu busnes, yn enwedig os ydych yn ifanc, ond dyna sy’n gwneud cefnogaeth Syniadau Mawr Cymru mor werthfawr.

"Rydych yn cael cyfarfodydd rheolaidd â chynghorydd busnes, sy’n gwneud i chi deimlo nad ydych ar eich pen eich hun. Maent wedi fy helpu i fireinio fy syniad, i ddatblygu fy nghynllun busnes ac i ysgrifennu at brifysgolion i fesur eu diddordeb.” 

Daeth Tim i wybod am Syniadau Mawr Cymru drwy’r gwasanaeth menter ym Mhrifysgol Met Caerdydd, ar ôl iddynt glywed am ei syniad am fusnes gan ddarlithydd. Cafodd Tîm ei gyfeirio ganddynt at ‘Bwtcamp i Fusnes’, gweithdy deuddydd sy’n cael ei drefnu gan Syniadau Mawr Cymru. Mae’r Bwtcamp yn gyfle i entrepreneuriaid ifanc i ddysgu a mireinio eu sgiliau busnes gyda chyngor a mentora gan bobl fusnes llwyddiannus o Gymru.

Meddai Tim: "Mi wnes i fwynhau’r Bwtcamp, yn enwedig y cyfle i siarad ag entrepreneuriaid eraill a’u holi am eu profiadau. Roedd hynny’n ysbrydoliaeth.”

Mae Tim yn awr yn y broses o gynnal trafodaethau â buddsoddwyr i sicrhau cyllid ac i ddatblygu cronfa ddata gynhwysfawr o ddarpar fyfyrwyr. Mae eisoes yn gobeithio gwneud y platfform yn un byd-eang, ac mae’n chwilio am farchnadoedd allweddol eraill mewn gwledydd ledled y byd.

Meddai Mark Adams, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: "Mae gan Tim syniad busnes gwych ac mae’n gweithio’n galed i sicrhau ei fod yn llwyddo. Ar ôl clywed am yr holl ddiddordeb a ddangoswyd yn barod gan fyfyrwyr a phrifysgolion, rwyf yn siŵr y bydd ei freuddwydion am Sportfolio yn cael eu cyflawni."

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant o fenter yng Nghymru, i ysbrydoli pobl ifanc rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu sgiliau entrepreneuriaid a mynd ati i sefydlu busnes. Fel rhan o wasanaeth Busnes Cymru, mae Syniadau Mawr Cymru yn annog menter ac yn cefnogi uchelgais pobl ifanc ym myd busnes.