Tom Burke photo
Tom Burke
Animated Technologies
Trosolwg:
Asiantaeth ddigidol yw Animated Technologies sy’n creu animeiddiadau 3D deniadol ac apiau rhyngweithiol ymgolli a fydd yn delweddu’ch cynhyrchion technegol cymhleth.
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Ynys Môn

Mae Tom yn gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Animated Technologies. Mae dau brif beth sy’n mynd â’i fryd: Animeiddio ac Arloesi, sy’n ffodus iawn gan mai dyna beth mae Animated Technologies yn ei wneud.

Fel un sy’n dod o gefndir creadigol canolbwyntiodd yn gynnar ar animeiddio, gan ddatblygu hoffter o animeiddio i ddechrau, yna dealltwriaeth ddwfn o agweddau technegol a chreadigol ohono. Mae hyn wedi arwain at brosiectau diddorol iawn ac wedi helpu i bennu llwybr Animated Technologies.

Y tu allan i’r swyddfa does dim byd yn well gan Tom na threulio amser gydag Anna, eu dau fachgen a’r ci, a hynny yn yr awyr agored os yw’n bosibl!

Mae Tom yn unigolyn penderfynol iawn. Mae wedi nofio ar draws y Sianel ddwywaith, ar ei ben ei hun ac mewn tîm, ac yn fwy diweddar mae wedi nofio o amgylch y Gogarth gyda’i frawd (camp mae’n debyg nad oes neb arall wedi’i gwneud o’r blaen). Mae wrth ei fodd yn cael her ac mae i’w weld yn hyfforddi ar gyfer triathlon neu’n dringo yn aml iawn. Mae’n dod â’r penderfyniad y mae’r profiadau hyn wedi’i roi iddo i bopeth y mae’n ei wneud.