Ride Dyfi photo
Tom Lancaster ac Emily Stratton
Ride Dyfi
Trosolwg:
Siop un stop i feicwyr mynydd ddod o hyd i lety addas gyda chyfleusterau i storio beiciau, llefydd i feicio, a phethau eraill i’w gwneud o amgylch y cyrchfannau beicio mwyaf poblogaidd yng ngogledd orllewin Cymru.
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Twristiaeth

Mae dau o raddedigion diweddar Prifysgol Aberystwyth wedi defnyddio eu hangerdd dros feicio i lansio busnes twristiaeth sy’n helpu beicwyr mynydd i gynllunio gwyliau beicio yn Nyffryn Dyfi ac Eryri.

Mae Ride Dyfi, sef asiantaeth deithio Tom Lancaster, sy’n 22 oed ac Emily Stratton sy’n 25 oed, yn siop un stop i feicwyr mynydd ddod o hyd i lety addas gyda chyfleusterau i storio beiciau, llefydd i feicio, a phethau eraill i’w gwneud o amgylch y cyrchfannau beicio mwyaf poblogaidd yng ngogledd orllewin Cymru.  

Cyfarfu'r ddau yn y brifysgol, pan oedd Tom yn astudio cwrs Rheoli Busnes ac Emily yn astudio Daearyddiaeth. Dechreuon nhw eu busnes gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o Busnes Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion.

Wrth siarad am darddiad Ride Dyfi, dywedodd Tom: “Pan oedd ein teulu am ymweld â Dyfi i fynd ar deithiau beicio, roedd bron yn amhosibl dod o hyd i lety gyda lle addas a diogel i storio beiciau, yn ogystal â chyfleusterau defnyddiol eraill ar gyfer beiciau mynydd megis peiriant golchi beiciau, lle parcio a pheiriant golchi neu sychu.

“Gyda datblygiadau cyfleusterau beicio mynydd rhagorol yn yr ardal fel parc ‘Dyfi Bike Park’, Coed y Brenin a Nant yr Arian, mae ardal Dyfi’n cael enw fel ‘canolbwynt antur’ answyddogol Ewrop. Mae beicwyr yn dod o bob cwr o’r DU i ddarganfod beth rydyn ni’n hoffi ei alw’n ‘gyfrinach fawr beicio mynydd!’”

Ar ôl graddio o’r brifysgol, roedd y ddau eisiau aros yn Aberystwyth a chael swyddi yn y diwydiant, gydag Emily yn rheolwr ym mharc ‘Dyfi Bike Park’ a Tom yn swyddog gweithredol gwerthu, marchnata a digwyddiadau ar gyfer Atherton Bikes. Roedd y ddau yn sylweddoli bod ganddyn nhw wybodaeth dda am ardal Dyfi a phrofiad proffesiynol a phersonol o'r diwydiant twristiaeth beiciau.

Dywedodd Emily: “Yn fy swydd rwy’n cwrdd â reidwyr bob dydd sy’n teithio o bob cwr o’r wlad i seiclo’r llwybrau anhygoel sydd gan ardal Dyfi i’w cynnig, felly roeddwn i’n gwybod bod galw am Ride Dyfi a fyddai’n cynyddu wrth i’r cyfyngiadau symud lacio.”

Ychwanegodd Tom: “Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn defnyddio safleoedd fel booking.com ac Airbnb ond roedd ein hymchwil yn dangos bod bwlch yn y farchnad ar gyfer chwmni llety gwyliau a oedd wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer ardal Dyfi gydag arbenigedd beicio mynydd.”

Mae platfform ar-lein Ride Dyfi yn rhoi’r gallu i berchnogion llety hysbysebu eu llefydd yn benodol ar gyfer beicwyr mynydd ac anturiaethwyr. Yn y cyfamser, mae’r wefan yn caniatáu i westeion archebu o’u cartrefi a chanfod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw ar gyfer eu taith ymlaen llaw.

Wrth drafod effaith y pandemig, dywedodd Emily: “Fe wnaethon ni sefydlu ein busnes yn ystod y cyfnod clo pan oedd gwyliau’n teimlo fel rhywbeth o’r gorffennol pell. Er y gallai hyn fod wedi ymddangos yn risg, roedden ni’n hyderus, unwaith y byddai’r rheolau teithio wedi’u llacio, y byddai’r galw am wyliau reidio yn boblogaidd iawn. Rydyn ni wedi ennill momentwm mawr ers lansio ac ar hyn o bryd rydyn ni’n canolbwyntio ar lunio ein rhestrau llety.”

Mae Tom ac Emily wedi cael cefnogaeth gan y gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Syniadau Mawr Cymru i roi’r dechrau gorau i Ride Dyfi. Yn gynharach eleni, penderfynodd y ddau gyflwyno eu syniad yng nghystadleuaeth InvEnterPrize flynyddol Prifysgol Aberystwyth, a drefnwyd gan Wasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol ac a gefnogwyd gan Syniadau Mawr Cymru.

Er mwyn helpu’r myfyrwyr i ddatblygu eu meddylfryd entrepreneuraidd, dyfarnwyd ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru i Tom ac Emily, sef Julie Morgan, a roddodd gyngor i’r myfyrwyr ar ysgrifennu cynllun busnes, llunio rhagolygon ariannol, marchnata a datblygu busnes.

Dywedodd Emily: “Clywsom am y gwasanaeth am y tro cyntaf pan ddaeth y ddau ohonom i seminar Syniadau Mawr Cymru yn ystod ein cyfnod yn y brifysgol. Mae cael rhywun profiadol fel Julie i’n cefnogi drwy gydol ein taith lansio busnes wedi bod mor ddefnyddiol. Mae hi wedi rhoi cipolwg amhrisiadwy i ni ar bopeth o redeg busnes o ddydd i ddydd i wybod am y risgiau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw.”

Dywedodd Julie Morgan, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Nid yn unig y mae Tom ac Emily wedi sylwi ar fwlch yn y farchnad, ond maen nhw wedi troi eu gwir angerdd yn fenter arbennig. Mae’r ddau wedi defnyddio eu sgiliau a’u cymhelliant i greu brand cryf a rwy’n sicr y bydd yn tyfu’n fusnes llwyddiannus.”

Wrth siarad am ei huchelgais i’r dyfodol ar gyfer Ride Dyfi, dywedodd Emily: “Pan fydd y brand ‘Ride’ wedi’i sefydlu, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni atgynhyrchu templed busnes Ride Dyfi mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y DU. Mae Dyffryn Tweed yn yr Alban yn dod yn fan poblogaidd ar gyfer beicio mynydd i bobl o bob sgil a gallu, felly rydyn ni wrthi’n datblygu Ride Tweed i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr yno.”

Ychwanegodd Tom: “Yn dilyn Ride Tweed, rydyn ni hefyd yn gobeithio edrych ar ardaloedd eraill yn y DU fel y Peak District, Surrey Hills a Pharc Cenedlaethol Exmoor a hyd yn oed cyrchfannau reidio byd enwog fel Morzine, Les Gets, Whistler a Rotorua.”

Dyma ddywedodd Tony Orme, ymgynghorydd gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth am Ride Dyfi: “Mae Tom ac Emily wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda’u busnes mewn dim o dro ers ei lansio. Maen nhw’n enghreifftiau perffaith o entrepreneuriaid ifanc sydd ag uchelgais a phenderfyniad, sy’n sylfaen wych ar gyfer tyfu eu busnes.”

I gael gwybodaeth am Ride Dyfi ewch i: https://ridedyfi.co.uk/