Toni McLelland
Toni McLelland MSc
1st Life Group
Trosolwg:
Arbenigo mewn busnes ar gyfer Effaith Gymdeithasol, Cyfiawnder Cymdeithasol a Symudedd Cymdeithasol
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

Mae 1st Life Group yn arbenigo mewn busnes ar gyfer Effaith Gymdeithasol, Cyfiawnder Cymdeithasol a Symudedd Cymdeithasol gan rymuso ac ysbrydoli Arweinwyr a Byrddau lefel uwch.

Mae cyngor arbenigol a mentora ar Arweinyddiaeth a Busnes Tosturiol yn cael ei gyflwyno drwy sgyrsiau ysbrydoledig, gwasanaeth ymgynghori, aelodaeth, rhaglenni grŵp pwrpasol neu sesiynau 1-i-1.

Rydw i wedi bod yn entrepreneuraidd ers pan oeddwn i yn fy arddegau.

Mae gen i hefyd yrfa helaeth yn arwain gwasanaethau sy’n cefnogi pobl ifanc. Mae fy ngyrfa’n cynnwys gweithio i lywodraeth ganolog, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Swyddfa Gartref, Cyfiawnder Troseddol, Gofal Cymdeithasol a bod yn Bennaeth mewn Ysgol AAAA (Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd) gan oruchwylio Therapi, Gofal ac Addysg. Sylweddolais fod bwlch mewn gwasanaethau ymgynghori sy’n darparu cymorth busnes arbenigol yn y maes hwn ac a oedd yn gwybod am wasanaethau i blant a grwpiau mewn perygl.

Roedd angen i ymgynghorwyr wybod am faterion diogelu, cynllunio wrth gefn, parhad busnes, rheoleiddio archwiliadau cydymffurfio yn ogystal â sicrhau ansawdd a chael cymorth gyda’r rhain. Ar ben hynny, roedd angen craffter busnes arnyn nhw ac nid oedd llawer o gymorth ar gael. Felly pan oeddwn i yn y swyddi hyn, doedd neb y gallwn i droi atynt.

Fe wnes i ganfod llawer o fylchau felly nawr rydw i’n helpu busnesau newydd i lenwi’r bylchau hynny gyda busnesau newydd.

Rydw i’n gweithio ar fy nghyflymdra fy hun, yn creu fy amserlen fy hun a does dim rhaid i mi deimlo rheidrwydd i wneud rhywbeth nad yw’n cyd-fynd â’m gwerthoedd, fy nghenhadaeth na’m moeseg. Rydw i’n atebol am y penderfyniadau rydw i’n eu gwneud yn bersonol ac nid am y rhai dydw i ddim yn gwybod dim amdanyn nhw. Rydw i’n teimlo’n rhydd ac wedi fy ngrymuso i fentro’n ofalus ac rydw i’n awyddus i ysbrydoli a grymuso eraill i wneud yr un peth.


Problemau a oresgynnwyd?
Roedd yn anodd i mi symud o’r sector cyhoeddus i’r sector preifat a gofyn i bobl dalu am fy ngwasanaethau gan nad oedd hyn yn gysyniad roeddwn i’n gyfarwydd ag ef. 
Dydw i ddim yn difaru dim - dim ond dysgu o brofiad gan fy mod i’n manteisio ar bob cyfle i ddysgu o’r da a’r drwg.

Gair i gall?
Byddwch yn ddewr ac yn ymrwymedig. Chwiliwch am eich cryfder! Fy nghryfder i yw ysgeintio #llwchhudtoni wrth i bethau hudolus ddigwydd.

Beth wnaeth fy ysbrydoli?
Pobl, fy nhad a pharhau â’i etifeddiaeth, rheolwyr gwych a gwybod fy mod i’n gwneud gwahaniaeth.

Rydw i’n gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud, nid oherwydd fy mod i eisiau bod ar flaen y gad ond oherwydd fy mod i eisiau arwain pobl eraill i’r blaen.

“Y ffordd orau o rymuso eraill yw rhoi eich pŵer chi iddyn nhw, nid dal gafael arno” a dyna rydw i’n ceisio ei wneud drwy greu arweinwyr busnes bob dydd.