The Little Orange Shop
Will Brooks ac Imogen Wright
The Little Orange Shop
Trosolwg:
Mae dau ffrind 19 mlwydd oed o Sir Benfro wedi lansio busnes ffordd o fyw foesegol gyda’r nod o newid agweddau tuag at ddefnyddio cynnyrch sy’n niweidio’r amgylchedd.

Dau o Sir Benfro’n gweld y golau gyda’u menter canhwyllau fegan

Mae dau ffrind 19 mlwydd oed o Sir Benfro wedi lansio busnes ffordd o fyw foesegol gyda’r nod o newid agweddau tuag at ddefnyddio cynnyrch sy’n niweidio’r amgylchedd.

Mae Will Brooks ac Imogen Wright, sylfaenwyr Little Orange Shop, yn gwneud canhwyllau naturiol sy’n 100% fegan a diwenwyn, ac maent bellach ar gael i'w prynu o’u siop ar-lein a lansiwyd yn ddiweddar.

Mae'r canhwyllau, sy’n cael eu gwneud â llaw yn ysgubor fechan rhieni Imogen yn Nherfgarn, yn cael eu gwneud o soia. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw gynnyrch anifeiliaid, petrolewm na chemegau lliwio artiffisial, a dim ond persawrau naturiol sy’n cael eu defnyddio. Ar hyn o’r bryd mae eu casgliad fegan yn cynnwys canhwyllau cnau coco, fanila, coffi, oren a sinamon.

Ers iddynt gyfarfod ar y cwrs sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Sir Benfro, mae brwdfrydedd Will ac Imogen am yr amgylchedd a feganiaeth, ynghyd â phrofiad Imogen o wneud canhwyllau, wedi eu harwain at agor Little Orange Shop.

Ers hynny, maent wedi mynd ati i ddatblygu’r brand, y gwefan, y cynnyrch a’r pecynnau, gan ddefnyddio’r sgiliau creadigol maent wedi eu dysgu ar eu cwrs coleg.

Dywedodd Will: “Ein hawydd i greu cynnyrch sy’n 100% naturiol sydd wrth wraidd ein brand, ac mae’n agwedd nad ydym yn fodlon cyfaddawdu arni. Mae’r ddau ohonom yn bobl sy’n byw ein bywydau mewn ffordd foesegol, ond rydym am i’n cynnyrch fod ar gael i bawb.

“Mae Little Orange Shop eisiau codi ymwybyddiaeth o gynhyrchion a all niweidio’r amgylchedd ac annog pobl i ddewis cynhyrchion sydd â chydwybod cymdeithasol.”

Aeth Imogen ymlaen i ddweud: “Rydym yn gwybod bod ymgyrch i fod yn fwy moesegol ar waith ledled y DU, ac rydym yn ei chefnogi’n llwyr. Fodd bynnag, mae rhai siopau mawr yn gwerthu eu cynhyrchion fel cynnyrch sy’n 100% naturiol, ond nid yw hyn o hyd yn wir, gan fod cynhwysion artiffisial yn cael eu hychwanegu, sy’n gadael y cwsmer i lawr yn y pen draw.

“Rydym yn deall ei bod hi’n anodd gwneud newidiadau sylweddol i fywyd bob dydd, ond rydym yn gobeithio bydd Little Orange Shop yn helpu rhai i gymryd camau bychan yn y cyfeiriad cywir.”

Mae’r pâr wedi treulio’r haf yn masnachu mewn marchnadoedd cynnyrch fegan ledled Cymru, yng Nghaerfyrddin, Tyddewi, Trefynwy a Phenarth i restru dim ond rhai, yn ogystal â chynrychioli Coleg Sir Benfro yn Sioe Sir Benfro. 

Maent wedi sefydlu Little Orange Shop gyda chefnogaeth gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o wasanaeth Busnes Cymru i hybu entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Mae Syniadau Mawr Cymru’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes.

Eglurodd Will: “Aethom at Karen Neville sy’n rhan o’r tîm Menter yng Ngholeg Sir Benfro, gyda’n cynllun busnes, a chawsom ein cyfeirio at Syniadau Mawr Cymru er mwyn i ni gael cymorth i wireddu ein syniadau. Rydym wedi gweithio’n agos gyda David Bannister o Syniadau Mawr Cymru, sydd wedi cynnig cyngor amhrisiadwy inni roi cyfeiriad i’r busnes a chyngor ar agweddau penodol fel prisio ein cynhyrchion.

Aeth Imogen ymlaen i ddweud: “Mae Will a minnau’n gweithio’n dda fel partneriaid; mae o’n cymryd cyfrifoldeb am lawer o’r penderfyniadau busnes, a rydw i’n tueddu i arwain yr ochr greadigol. Mae’r ddau ohonom yn dysgu am fusnes wrth inni fynd ymlaen, ond mae cefnogaeth David o Syniadau Mawr Cymru wedi bod o gymorth mawr yn ystod y broses.”

Yn y dyfodol, mae Will ac Imogen yn gobeithio enhangu Little Orange Shop a chyflwyno colur a chasgliad ehangach o nwyddau i'r cartref, gan eu bod eisoes wedi arbrofi â sebonau, hufen a sgrwb i’r wyneb, sydd i gyd yn 100% naturiol.

Ar y funud, maent yn paratoi at lansio eu cynnyrch mewn nifer o siopau annibynnol yn Sir Benfro ac mae’r pâr yn gobeithio gweld eu siop eu hunain yn agor ar y stryd fawr un diwrnod.

Candle from The Little Orange Shop

Ond, yn y cyfamser, mae Will ac Imogen yn mynd ymlaen i astudio Celfyddyd Gain y naill yng Ngholeg Gelf Camberwell a’r llall ym Mhrifysgol Kingston, ac yn bwriadu parhau i redeg Little Orange Shop ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Maent eisoes wedi sicrhau stondinau ym marchnadoedd Nadolig Neuadd y Ddinas Caerdydd a digwyddiad Winterville yng Nghomin Clapham.

Dywedodd David Bannister, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, sydd wedi cefnogi Little Orange Shop: “Mae wedi bod yn bleser llwyr gweithio gyda Will ac Imogen; unigolion gweithgar a gofalus, ac maent yn angerddol ynghylch gwneud penderfyniadau byw â chydwybod. Mae eu dealltwriaeth o'r mater, yn ogystal â'u datblygiad fel pobl fusnes yn fy sicrhau’n llwyr y bydd Little Orange Shop yn llwyddiant ysgubol. "

 


Cewch sesiynau 1-2-1 gyda Chynghorydd Busnes, canllaw ar gychwyn busnes a Simply Do Ideas - ffordd wych o ddatblygu eich syniadau busnes chi!