Adroddiad Prosiect: Defnyddio Pryfed Ysglyfaethus i reoli plâu pryfed yn fiolegol yn Uned Foch Coleg Glynllifon

Cyflwyniad

Campws astudiaethau’r tir yw Glynllifon ar Stad Glynllifon ger Caernarfon. Mae’r buddsoddiadau diweddar ar y fferm yn cynnwys uned foch fodern iawn sy’n cynnwys cenfaint o 50 o hychod hybrid Rattlerow WhiteLand. Er bod dau faedd ar y safle, mae’r rhan fwyaf o’r sbinychod a’r hychod yn cael ymhadiad artiffisial. Mae’r adeilad modern wedi ei insiwleiddio ac mae system awyru awtomatig ynddo fel bod y tymheredd ym mhob ystafell yn cael ei reoli i gadw’r moch yn gynnes yn y gaeaf ac yn oer ym misoedd yr haf. Mae’r llawr yn ddelltog, fel bod slyri yn cael ei gasglu mewn tanciau a’i ddefnyddio ar gyfer y silwair toriad cyntaf i leihau costau gwrtaith. Mae’r uned wedi ei rhannu’n 10 ystafell gaeedig gan gynnwys 2 ystafell bwrw perchyll, 3 ystafell feithrin/dyfu, 4 ystafell besgi a 1 ardal i hychod sych, pob un â thanc slyri ar wahân. 

Yn ddiweddar mae pryfed wedi bod yn broblem yn yr uned, yn enwedig yn yr ystafelloedd pesgi. Nid yn unig mae’r pryfed yn niwsans i’r staff a’r moch, ond maent hefyd yn cludo afiechydon; gallant ledaenu dros 100 o wahanol bathogenau, fel salmonela spp a throsglwyddo mwy na 65 o afiechydon y coluddyn ac afiechyd llygad i bobl ac anifeiliaid a heintio briwiau a’r croen. Gall pryfed hefyd gael effaith sylweddol ar gynhyrchiant oherwydd lleihad yn y bwyd a fwyteir, gan arwain at golledion economaidd difrifol.

Pryfed tŷ yw’r rhywogaeth fwyaf cyffredin sy’n effeithio ar y moch yng Nglynllifon. Gallant gwblhau eu cylchred bywyd mewn cyn lleied â saith niwrnod ym misoedd cynhesach yr haf. Gan mai dim ond 15% o gyfanswm y boblogaeth o bryfed sy’n oedolion ar unrhyw un amser, ni fydd lladd y pryfed sy’n oedolion yn unig yn rheoli’r broblem yn effeithiol.

Gyda’r pwysau’n cynyddu ar y defnydd o gemegolion ar ffermydd ac ymwrthedd yn datblygu oherwydd bod yr un plaleiddiaid yn cael eu defnyddio’n barhaus, mae’r prosiect hwn yn edrych ar ddefnyddio pryfed ysglyfaethus fel dull biolegol o reoli a thorri cylchred bywyd y pryfed sy’n bla ac yn y pen draw rheoli’r nifer o bryfed yn yr uned foch. 

 

Rheoli pryfed yn fiolegol ar unedau moch

Mae rheoli pryfed yn fiolegol yn ateb gwahanol i gemegolion; mae’n golygu defnyddio pryfed buddiol i roi strategaeth effeithiol ac amgylcheddol gyfeillgar yn erbyn pryfed o gwmpas ffermydd da byw. Mae nifer o bryfed gwahanol ar gael sy’n targedu gwahanol gyfnodau yng nghylched bywyd y pry, y gellir eu defnyddio fel rhan o system reoli pla integredig. Y biofly (Hydrotea aenescens) yw’r pry a ddefnyddir amlaf sydd o fudd i unedau moch delltog. Mae’r biofly yn bry ysglyfaethus sy’n targedu larfa pryfed mewn ardaloedd o dail gwlyb, fel pyllau slyri dan ddelltau. Mae larfa’r biofly yn ysglyfaethwr cigysol sy’n bwyta larfa amrywiol rywogaethau o bryfed sy’n achosi pla. Nid yw’r biofly ei hun yn achosi niwsans i staff y fferm nag anifeiliaid gan y bydd yr oedolyn yn hedfan ychydig fodfeddi uwch ben y slyri (dan y delltau) a bydd yn dechrau dodwy wyau yn fuan ar ôl ei ryddhau. Mae’r wyau’n datblygu’n larfa a fydd yn mynd ati i fwyta’r larfa pryfed sy’n achosi pla yn y slyri, gan dorri cylchred bywyd y pry. Mae larfa’r pry ysglyfaethus yn datblygu yn y slyri heb fod angen ysglyfaethu ar larfa pryfed, felly gall gynnal ei hun hyd yn oed pan fydd lefel y larfa yn isel.

Prif nod y prosiect oedd ceisio lleihau’r nifer o bryfed tŷ yn yr uned foch i wella cynhyrchiant ac iechyd yr anifeiliaid a’u llesiant trwy gyflwyno a gwerthuso effeithiolrwydd defnyddio larfa pryfed fel dull biolegol o reoli pryfed. 
 

 

Deunyddiau a Dulliau

Cyn rhyddhau’r biofly am y tro cyntaf, casglwyd data ymlaen llaw. Rhoddwyd pedwar stribed troedfedd o hyd i hongian yn y 4 ystafell besgi a’r 3 ystafell feithrin. Gosodwyd y tapiau yn yr un lleoliad ym mhob ystafell a chyfrifwyd y pryfed a’u cofnodi bob dydd Llun a dydd Iau, gyda thapiau ffres yn cael eu gosod ar ôl pob cyfri. Cwblhawyd cyfanswm o 3 chyfrif cyn rhyddhau’r biofly am y tro cyntaf a ddigwyddodd ar 17 Awst 2022. Cofnodwyd tymheredd yr holl ystafelloedd i sicrhau nad oedd amrywiadau arwyddocaol a allai effeithio ar ddata’r cynllun treialu.

Ar ôl rhyddhau’r biofly am y tro cyntaf, defnyddiwyd yr un dull monitro gyda thâp pryfed hyd y cyfrif olaf a ddigwyddodd ar 4 Hydref 2022.

Gellir gweld y protocol rhyddhau biofly isod (Ffigwr 1). Mae un sachet o biofly yn cynnwys tua 9000 chwiler. Defnyddiwyd twb o biomite ym mhob ystafell â thriniaeth ochr yn ochr â’r biofly ar gyfer y rhyddhau cyntaf oherwydd y nifer fawr o bryfed yn yr uned i gynorthwyo i leihau’r boblogaeth o bryfed. Mae biomite yn ysglyfaethwr wyau/ larfa ifanc, ac felly’n targedu cyfnod gwahanol yng nghylchred bywyd y pry mewn cymhariaeth â’r biofly.

(Ffigwr 1)

 

Canlyniadau

Fel y gellir gweld yn nhabl 1, gostyngodd y newid canrannol ar gyfartaledd yn niferoedd y pryfed yn gyffredinol yn yr holl ystafelloedd pesgi a meithrin (rheoli a gyda thriniaeth) o 50%. Gostyngodd y boblogaeth o bryfed yn yr ystafelloedd meithrin gyda thriniaeth a rheoli o 55% a 40% yn eu tro. Dengys hyn ei bod yn debygol bod biofly wedi cyrraedd yr ystafelloedd rheoli rhywsut, gan achosi’r gostyngiad cyffredinol yn hytrach na dim ond gostyngiad yn yr ystafelloedd â thriniaeth. Roedd gostyngiad o 81% yn y pryfed a gofnodwyd ar y tapiau yn yr ystafelloedd pesgi rheoli a chynnydd o 57% yn y niferoedd o bryfed ar dapiau yn yr ystafelloedd pesgi â thriniaeth. Roedd nifer isel iawn o bryfed yn yr ystafelloedd pesgi â thriniaeth i gychwyn, gyda chyfartaledd o ddim ond 17 o bryfed yn cael eu cofnodi i bob ystafell â thriniaeth, mewn cymhariaeth â 60 o bryfed a gofnodwyd yn yr ystafelloedd pesgi rheoli, felly mae’n debyg mai dyma’r rheswm am y cynnydd uchel yn y ganran. Cyfanswm costau rheoli pryfed yn fiolegol i bob lle i fochyn wrth ystyried yr holl ystafelloedd meithrin a phesgi yng Ngholeg Glynllifon, oedd £0.95. Dan amgylchiadau arferol byddai’r pryfed buddiol yn cael eu rhyddhau gyntaf o gwmpas mis Mai, cyn i’r pryfed sy’n bla fynd yn broblem. Oherwydd bod y prosiect wedi cychwyn yn hwyr yng Nghlynllifon, cyflwynwyd Biomite i leihau’r boblogaeth uchel o bryfed oedd yno’n barod, a thrwy hynny cynyddodd cost y driniaeth. 

Trwy gydol y cynllun treialu cofnodwyd bod marciau duon ar y tâp pryfed oedd yn ymddangos fel petai pry wedi bod yno, oedd wedi llwyddo i ddianc ac felly mae angen ystyried hyn gan y gallai fod wedi achosi darlleniadau ffug. Roedd oedran y moch ym mhob ystafell yn amrywio hefyd, yn ogystal â lefel y slyri yn y pyllau, a fydd oll yn cael effaith ar niferoedd y pryfed, oherwydd y diet y bydd y moch yn ei gael a lefelau’r amonia yn yr ystafell. Bydd diet â mwy o siwgr yn denu mwy o bryfed yn ogystal â lefelau uwch o amonia. 

Nifer cyfartalog y pryfed a chanran y newid yn y nifer o bryfed ar y tâp cyn ac ar ôl rhyddhau biofly

 

Cyn biofly

Ar ôl biofly

Canran y newid (%)

Yr holl ystafelloedd Pesgi a Meithrin wedi eu cyfuno

46

23

-50

Yr holl ystafelloedd pesgi

37

19

-48

Yr holl ystafelloedd meithrin

58

29

-51

Ystafell feithrin reoli

52

31

-40

Ystafell feithrin â thriniaeth

61

27

-55

Ystafelloedd pesgi rheoli

60

11

-81

Ystafelloedd pesgi â thriniaeth

17

27

57

Tabl 1: Canran y newid yn y nifer o bryfed cyn ac ar ôl rhyddhau biofly yn yr ystafelloedd meithrin a phesgi

 

(Ffigwr 2)

 

(Ffigwr 3)

 

Mae Ffigwr 2 a 3 yn dangos y nifer o bryfed a gyfrifwyd ar y tâp pryfed ar gyfer pob ystafell dros gyfnod y cynllun treialu. Mae’n amlwg bod gostyngiad cyffredinol wedi bod yn nifer y pryfed, ar gyfer yr ystafelloedd pesgi a meithrin ar ôl rhyddhau biofly sydd wedi ei nodi ar y graff gyda llinell werdd. 

 

Casgliad

I gloi, bu gostyngiad arwyddocaol yn y boblogaeth gyffredinol o bryfed ar draws uned foch Glynllifon. Nid yw’n glir a oedd y biofly wedi cael ei gyfyngu’n ddigonol i bob ystafell, ond mae’r data’n awgrymu bod y biofly wedi lleihau’r boblogaeth o bryfed oedd yn bla trwy’r adeilad cyfan yn hytrach na dim ond yr ystafelloedd â thriniaeth. Gellid cwblhau astudiaeth arall yn cymharu ystafelloedd gyda moch o’r un oed yn ogystal â’r un lefel o slyri i gael cynllun treialu fyddai’n cymharu’n well.