Adroddiad Prosiect Terfynol Fferm Arnolds Hill: Hau glaswellt o dan gnwd india corn i sicrhau buddion amgylcheddol ac economaidd

Safle: Arnolds Hill Farm, Slebech, Hwlffordd

Swyddog Technegol: Delana Davies

Teitl y prosiect: Hau glaswellt o dan gnwd india corn i sicrhau buddion amgylcheddol ac economaidd

 

Cyflwyniad i’r prosiect

Mae'r newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o achosion o law trwm yn ystod y gaeaf, ac mae monitro afonydd wedi dangos y ceir cynnydd cyflym yn lefel ffosffadau afonydd yn sgil hynny, ffactor sydd wedi’i briodoli i ddŵr ffo o’r pridd. Felly, nid yw gadael bonion planhigion india corn yn foel dros y gaeaf yn gynaliadwy, ond gall cynllunio i sefydlu cnwd neu orchudd ar ôl cynaeafu’r india corn fod yn broblemus yn sgil amgylchiadau’r pridd yn yr hydref a hau yn hwyr. 
Yn Nenmarc, mae hadau glaswellt bellach yn cael eu hau o dan filoedd o hectarau o india corn, ac mae gwaith arbrofi helaeth yno wedi darparu canllawiau ynghylch sut i sefydlu’r glaswellt yn dda

 

Beth yw’r manteision?

  • Mae’n lleihau erydiad pridd
  • Mae’n cynyddu ffrwythlondeb
  • Mae’n cynyddu deunydd organig
  • Mae’n cynnal maetholion yn y pridd (+/- 40kg/ha N a K)
  • Mae’n gwella strwythur y pridd.
  • Mae’n haws paratoi gwelyau hau yn y gwanwyn
  • Arferion da o ran traws-gydymffurfiaeth 
  • Mae’n darparu cyfle i bori yn y gaeaf/gwanwyn

Sefydlu’r cnwd gorchudd o dan y cnwd india corn

Y cyfnod targed i hau cnydau gorchudd o dan gnydau india corn yw’r cyfnod o un wythnos ar ôl chwalu chwynladdwr am y tro cyntaf hyd at y cyfnod pan fydd y cnwd tuag uchder y glun yn gynnar ym mis Gorffennaf. Dylai planhigion y cnwd india corn fod wedi cynhyrchu rhwng pedwar a deg deilen erbyn hynny.

Roedd y gwaith cynnar yn golygu naill ai chwalu’r had gwair ar y ddaear neu eu chwalu â’u hogedu gan ddefnyddio cribyn â phigau dur; gall hyn fod yn effeithiol pan fydd glaw yn dilyn, ond bydd yn llai dibynadwy pan fydd hi’n sych. Gwnaed y gwaith drilio cychwynnol gan ddefnyddio dril wedi’i haddasu i sicrhau stribedi o laswellt rhwng y rhesi o india corn, ond mae driliau pwrpasol bellach yn cael eu cynhyrchu.

Mae treialon yn Nenmarc yn awgrymu bod cnydau’n sefydlu’n well trwy ddrilio’r hadau glaswellt a chaledu y tu ôl i’r dril. Mae hyn yn cynyddu dibynadwyedd ac yn galluogi ffermwyr i ddefnyddio cyfraddau hau is.

Er mwyn osgoi’r cnwd sy’n cael ei hau o dan yr india corn rhag cystadlu, ni ellir ei hau nes bod yr india corn wedi sefydlu, ond mae’n rhaid hau tra bod y cnwd india corn yn dal i fod yn ddigon byr i allu gyrru trwyddo. Ceir hefyd risg bod chwynladdwyr yn effeithio ar y cnwd gorchudd, a’r cyngor yw gweithio’n agos gyda’ch agronomegydd i ganfod y strategaeth fwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau.

 

Opsiynau hadau i’w hau o dan gnwd india corn 

Mae treialon yn ardal y ffin yng Nghymru wedi bod yn defnyddio rhygwellt Eidalaidd a rhygwellt lluosflwydd. Rhygwellt Eidalaidd yw’r glaswelltau cryfaf, a dyma sydd â’r potensial i dyfu’r cynnyrch biomas mwyaf ar ôl cynaeafu’r india corn. Gan ei fod yn llai bywiog, mae’n bosibl bod rhygwellt lluosflwydd yn fwy addas i gael i hau ynghynt; oherwydd niferoedd uwch o hadau fesul kg, gellir ei hau ar gyfraddau isel iawn.

Yn Nenmarc, maent hefyd wedi bod yn arbrofi gyda throed y ceiliog a pheiswellt tal, a oedd yn sefydlu’n llawer arafach, ond a oedd yn darparu gorchudd tir digonol dros y gaeaf; gwelwyd bod sicori hefyd yn gryf ac yn gwreiddio’n ddwfn. Mae cyfuniad o ffacbys y gaeaf a rhygwellt Eidalaidd, gyda meillion Berseem a rhygwellt Eidalaidd hefyd wedi cael eu defnyddio; mae’r ddau opsiwn yma hefyd yn sefydlogi nitrogen ychwanegol ar gyfer y cnwd dilynol, ac yn gallu hybu tyfiant yn gynnar yn y gwanwyn.

Nid yw’n syniad da i gynaeafu’r cnwd ar gyfer silwair yn ystod y gwanwyn dilynol gan fod arwynebedd y pridd yn gallu bod yn anwastad yn dilyn gweithgareddau cynaeafu india corn, gan greu perygl o halogi’r pridd. Bydd y cae hefyd yn cynnwys tipyn o goesynnau india corn oni bai bod y rhain yn cael eu torri’n syth ar ôl cynaeafu. Pori defaid neu wartheg ifanc dros y gaeaf neu ar ddechrau’r gwanwyn fyddai fwyaf addas.

 

Yr hyn a gafodd ei wneud

Dewiswyd cae 5ha wedi’i leoli ar lethr a’i hau gydag india corn Augustus, gan y byddai’n debygol o ddioddef effaith erydiad pridd pe byddai’n cael ei adael heb ei orchuddio dros y gaeaf. 

Cafodd pedair llain arbrofol eu sefydlu trwy hau hadau gwair o dan y cnwd india corn ar 2 Gorffennaf gan ddefnyddio cribyn pigan Zocon:

Llain 1 – Cymysgedd rhygwellt Eidalaidd (IRG) wedi’i hau ar gyfradd o 7kg/erw (17.3kg/ha). Mae rhygwellt Eidalaidd yn gryf ac yn rhad i’w ddefnyddio fel cnwd cylchdro byr. Bydd defnyddio amrywiaethau diploid yn golygu cyfradd hau uchel gyda digonedd o blanhigion, a dewiswyd amrywiaethau i sicrhau’r cynnyrch gorau erbyn mis Ebrill.

Llain 2 - Rhygwellt tetraploid lluosflwydd wedi’i hau ar gyfradd o 8kg/erw (19.8kg/ha). Mae’n cynnig y posibilrwydd o bori glaswellt o ansawdd uwch os caiff ei adael yn ei le tan y tymor nesaf (mae’n fwy deiliog a bydd yn blodeuo’n ddiweddarach). Bydd yn para’n hirach na’r rhygwellt Eidalaidd, a bydd yr arbrawf hwn yn ymchwilio i ganfod pa mor dda mae’n cystadlu o dan y gorchudd india corn.

Llain 3 – Rhygwellt Eidalaidd a ffacbys y gaeaf wedi’u hau ar gyfradd o 12kg/erw (29.6kg/ha). Mae ychwanegu ffacbys y gaeaf yn cynyddu cynnwys protein y deunydd sy’n cael ei bori, a bydd yn dechrau sefydlogi nitrogen ar gyfer y cnwd dilynol; mae’r system wreiddio eang hefyd o fudd i strwythur y pridd.

Llain 4 – Rhygwellt Eidalaidd a meillion Berseem wedi’u hau ar gyfradd o 8kg/erw (19.8kg/ha). Mae ychwanegu meillion Berseem yn caniatáu i orchudd biomas sefydlu’n gyflym a gellir sefydlogi nitrogen yn gyflym. Mae’r meillion hefyd yn hybu ansawdd protein y borfa. Er nad yw’r meillion yn gallu goddef barrug yn dda iawn, gall hyn fod yn fuddiol wrth ddrilio’r cnwd gwanwyn dilynol yn uniongyrchol, oherwydd bydd y rhan fwyaf o’r gorchudd wedi diflannu erbyn hynny.

Drilio’r cnydau cnwd gorchudd ar 2 Gorffennaf

 

Glaswellt yn sefydlu ar 30 Gorffennaf 

 

Llain rhygwellt Eidalaidd a ffacbys gyda meillion 30 Gorffennaf

Cynaeafu

Cafodd y cnwd india corn ei gynaeafu ar 16 Hydref, ar ddiwedd wythnos sych. Ychydig iawn o ôl olwynion a adawyd gan y peiriannau cynaeafu, gan olygu nad oedd unrhyw lwybrau dŵr ffo amlwg yn dilyn glawiad o 25mm ar 17 Hydref. 

20 Hydref

20 Hydref

 

20 Hydref, Rhygwellt Eidalaidd a ffacbys

Perfformiad y lleiniau

Cynhyrchodd y lleiniau glaswellt 2.5-3.0 tunnell DM/ha ar gyfartaledd, gyda’r ddwy lain yn seiliedig ar rygwellt Eidalaidd yn cynhyrchu’r gorchudd mwyaf. Yn ôl y disgwyl, roedd yn ymddangos bod y chwynladdwr india corn wedi effeithio’n negyddol ar y llain gyda’r meillion Berseem.

Nid oedd unrhyw effaith amlwg ar gynnyrch yr india corn o ganlyniad i hau o dan y cnwd, gyda’r india corn Augustus yn cynhyrchu 43 t/ha (17t/erw) ar gyfartaledd, yn debyg i flynyddoedd blaenorol lle na chafodd cnwd ei hau o dan yr india corn. 

Mae hefyd yn debygol bod y borfa a heuwyd o dan yr india corn yn helpu i gadw nitrogen yn y pridd ar gyfer y cnwd nesaf, hyd at 40kg/ha. Byddai cynnwys ffacbys yn ychwanegu at hynny, gyda’r nodylau sefydlogi nitrogen sy’n datblygu ar wreiddiau’r planhigyn yn gweithredu fel cronfa ar gyfer y cnwd nesaf. 

 

Pori dros y gaeaf

Cafodd ŵyn benyw a fu’n cael eu pori dros y gaeaf eu troi i’r cae arbrofol ym mis Rhagfyr, a bu 160 o ŵyn yn pori am 17 diwrnod, ac yna am saith diwrnod arall ym mis Chwefror. Ym mis Ebrill, bu 70 o ŵyn stôr yn pori’r cae am 20 diwrnod, a chafodd 12 o wartheg eu rhyddhau i’r cae i’w glirio.

 

Costau hau o dan y cnwd ac enillion o ran pori

Hadau glaswellt (opsiwn rhygwellt Eidalaidd) 5ha @ £50/ha = £250
Drilio hadau glaswellt ar 5ha @ £37/ha = £185

Cyfanswm costau hau o dan y cnwd = £435

Cyfanswm y dyddiau lle bu defaid yn pori = 5,240

Elw o bori tymor byr (tac) dros y gaeaf (90c/pen/wythnos) = £674

 

Casgliadau

O ganlyniad i hau hadau glaswellt o dan gnwd india corn, roedd y tir wedi’i orchuddio’n gyfan gwbl erbyn cynaeafu gan atal unrhyw ddŵr ffo oddi ar wyneb y pridd dros y gaeaf.

Cafodd costau’r hadau a’r drilio (£87/ha) eu had-dalu’n llawn drwy sicrhau 1,048 o ddiwrnodau pori defaid (gwerth £135) o’r borfa ddilynol.

Llwyddodd pob un o’r lleiniau i berfformio’n dda, ond mae’n debygol mai’r driniaeth o ddewis ar gyfer y fferm hon at y dyfodol er mwyn gallu pori defaid dros y gaeaf yw’r gymysgedd rhygwellt Eidalaidd, sy’n cynnig y potensial ar gyfer tyfu’r cyfanswm mwyaf o ddeunydd sych yn ystod y cyfnod o fis Tachwedd hyd fis Ebrill.