Abi Reader

 

Lleoliad:Bro Morgannwg

Cyrchfan:Sweden, Iwerddon a’r Alban

Pwnc: Ymchwilio i waredu BVD a Bioddiogelwch

Abi Reader

Abi Reader, Bro Morgannwg

Mae Abi Reader yn ffermwr llaeth ym Mro Morgannwg. Bwriad y cyn aelod o’r Academi Amaeth hon yw ymweld â Sweden, Iwerddon a’r Alban i ddysgu rhagor am waredu BVD.

Mae Abi yn awyddus i gael amrywiaeth eang o syniadau o ran rheoli afiechydon a bioddiogelwch ar y fferm ac mae am ddysgu sut y mae gwledydd eraill yn ymdrin â chyfathrebu a’u cynlluniau rheoli. Ei nod yw dysgu beth yw’r ffordd orau i werthu’r cynllun i ffermwyr yng Nghymru trwy ddod o hyd i’r gymysgedd orau o sianeli a all gynnwys cyfarfodydd, cyfryngau cymdeithasol, marchnadoedd, prynwyr llaeth ac ati. Mae’n gobeithio y bydd ei harbenigedd hi ei hun ynghyd â’r gwersi ychwanegol o’r ymweliad cyfnewid hwn, yn gadael iddi ddod yn fentor yn Rhaglen Waredu BVD Cymru.

 

adroddiad cyfnewidfa rheolaeth