Lee Pritchard

Lleoliad: Fferm Cwmcarno, Rhymni

Cyrchfan: Yr Alban

Pwnc: Systemau pori padogau ar ffermydd mynydd

Lee Pritchard

Bydd Lee Pritchard yn ymweld â'r Alban

Mae Lee Pritchard yn ffermio mewn partneriaeth gyda Lorraine Howells ar Fferm Cwmcarno, Rhymni. Fferm ucheldir yw hi’n bennaf, ond mae rhannau yn borfa ar dir gwell ac is.  Sefydlwyd y bartneriaeth diolch i gefnogaeth a gafwyd trwy gynllun Mentro Cyswllt Ffermio. Mae’r fferm yn cynhyrchu gwartheg duon Cymreig pedigri, mamogiaid Mynydd De Cymru a defaid Cymreig croes Suffolk. Bu Lee hefyd yn un o ymgeiswyr yr Academi Amaeth.

Ar ôl mynd i ddigwyddiad tyfu a phesgi ŵyn ar laswellt gan Cyswllt Ffermio yng Nghlwb Golff Aberpennar fis Mehefin diwethaf, lle cafodd ei ysbrydoli gan yr arbenigwr rhyngwladol Michael Blanche, roedd Lee yn awyddus i ddysgu rhagor am ei ddull.

Mae Michael yn ffermio yn Swydd Perth ac fel Lee tir ucheldir sydd ganddo yn bennaf gydag ychydig o dir pori is y mae wedi gallu ei wella trwy bori cylchdro. Trwy ganolbwyntio ar newid, gwella a thyfu mwy o laswellt mewn system bori padogau mewn cymhariaeth â’i system stocio sefydlog flaenorol ar ei fferm, mae Michael wedi gostwng ei gostau mewnbwn a chynyddu ei gyfradd stocio gan arwain at well elw i’r busnes.

“Byddaf yn gallu gweld sut y mae’r system badogau yma wedi cael ei llunio yn arbennig o ran sut y maent wedi cynnwys dŵr i’r da byw yn y system.

“Byddaf yn gallu gweld beth y maent wedi ei wneud i gynyddu faint o laswellt y byddant yn ei gynhyrchu er mwyn lleihau eu costau mewnbwn fel porthiant a brynwyd a sut y maent wedi gallu rheoli ansawdd a chyfanswm y glaswellt er mwyn cynyddu’r cig a gynhyrchir ar laswellt yn ogystal â chynyddu eu cyfraddau stocio.”

Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth: