Llyr Jones

 

Lleoliad: Gorwen 

Cyrchfan: Denmarc, Yr Iseldiroedd a Sweden

Pwnc: Lleihau lefelau amonia mewn unedau ieir maes.

Llyr Jones

Bydd Llyr Jones o Gorwen yn ymweld â Denmarc, Yr Iseldiroedd a Sweden

Mae Llyr Jones yn gyfrifol am redeg fferm Derwydd gyda 500 o ddefaid Miwl Cymreig, 900 o ddefaid mynydd Cymreig (math Nelson), 160 o wartheg stôr a 16,000 o wyau buarth a gyflenwir i Tesco.  Mae hefyd yn rhan berchennog ar Blodyn Aur sy’n gwerthu 6,000 o boteli o olew hadau rêp y mis i Asda, Sainsbury’s a Morrisons. Cymerodd ran yn rhaglen Busnes a Blaengaredd yr Academi Amaeth yn 2013 ac mae hefyd wedi defnyddio rhaglen fentora Cyswllt Ffermio.

Mae Llyr yn gobeithio adeiladu ail uned wyau 16,000 yn y 24 mis nesaf ac mae’n bwriadu ymchwilio i systemau ansawdd yr aer mewn unedau dofednod, glanhawyr aer yn benodol sy’n cael gwared ar amonia.

“Oherwydd rheoliadau newydd ar lefelau amonia a gyflwynwyd yn Ebrill 2017, fe fyddwn yn hoffi gosod glanhawyr aer a fydd yn cael gwared ar hyd at 90% o’r amonia a gynhyrchir gan yr ieir.

“Trwy osod glanhawr aer ar y siediau byddwn yn gallu dyblu’r nifer o ieir ond heb i’r amgylchedd ddioddef.”

Bydd Llyr yn ymweld â Denmarc, yr Iseldiroedd a Sweden, gwledydd lle mae rheolau ansawdd aer caeth ers dros saith mlynedd i weld sut mae ffermwyr wedi addasu mewn ffyrdd gwahanol er mwyn cydymffurfio.

 

ADroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth: