Bydd Matt Swarbrick o Gaernarfon yn ymweld â Sweden
Ag yntau â chefndir mewn cynhyrchu rhaglenni teledu, roedd prynu tyddyn yn Eryri yn gam mawr i Matt yn 2012. Erbyn hyn mae ei fusnes yn cyflogi dau aelod o staff rhan-amser ac yn cymryd nifer o wirfoddolwyr pan fydd hynny’n addas. Mae’r prif bwyslais ar ffermio defaid, ond mae Matt wedi arallgyfeirio i glampio a menter twristiaeth gwersylla; micro odro (llaeth buchod) a choedwigaeth.
Mae’n aelod o grŵp trafod garddwriaeth a grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio. Y nod yw datblygu’r fferm i fod yn fwy gwydn a chynnig mwy o waith.
“Rwy’n bwriadu ymweld â Fferm Paramaethu Ridgedale yn Sweden sydd yn arwain y blaen yn Ewrop ac efallai’r byd o ran y modd y gall gweithredu technegau adfywiol wneud ffermydd bach yn gynhyrchiol a phroffidiol.
“Mewn dim ond pum mlynedd mae Ridgedale wedi datblygu o fferm fach newydd ei hadeiladu a’i chychwyn (30Ha) yn fusnes sy’n cynnal saith o staff llawn amser mewn model busnes proffidiol. Daeth yn un o arweinwyr y byd o ran dulliau amaethyddol adfywiol. Ei phrif fentrau yw cynhyrchu wyau, tyfu llysiau, godro micro a thwristiaeth.”
Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth