Richard Hughes

Lleoliad: Pwllheli, Pen Llŷn

Cyrchfan: Iwerddon a Ffrainc

Pwnc: Ffermio malwod: ymchwil i’r farchnad a thechnegau ffermio

Richard Hughes

Richard Hughes, Pwllheli, Pen Llŷn

Gobaith y ffermwr bîff a defaid, Richard Hughes, yw ymweld â’r Iwerddon a Ffrainc i ddysgu rhagor am y prosesau a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ffermio malwod.  Mae’n gobeithio y bydd ei ymweliad yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder y mae arno eu hangen i ystyried sefydlu ei fferm falwod ei hun. 

Mae ganddo ddiddordeb yn arbennig yn y potensial o ran gwerthiannau ac mae am gael gwybod sut mae’r ffermwyr malwod mwyaf llwyddiannus yn marchnata a hybu eu busnesau yn eu gwledydd cartref a hefyd o ran allforion. Mae’r arfer o ffermio malwod wedi datblygu ymhellach ac yn fwy eang yn y gwledydd hyn, yn Ffrainc yn arbennig, nag y mae yn y Deyrnas Unedig.

Nod Richard yw ailadrodd llwyddiant ffermwyr malwod Iwerddon y mae eu cynnyrch, Gaelic Escargot, wedi cynyddu’n raddol ac erbyn hyn mae’n cynhyrchu incwm sylweddol. Mae’r cwmni hwn yn allforio eu cynnyrch i Ewrop ond maent wedi profi bod marchnad leol i falwod hefyd.

 

Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth