Sarah James

Lleoliad: Bowys

Cyrchfan: Iseldiroedd, Yr Eidal a Gogledd Iwerddon

Pwnc: Dulliau eraill o ddefnyddio tail dofednod

Sarah James

Bydd Sarah James o Bowys yn ymweld â'r Iseldiroedd, Yr Eidal a Gogledd Iwerddon

Sylweddolodd Sarah a’i phartner beth yw’r ffactorau sy’n cyfyngu ar fferm bîff a defaid fach ac yn ddiweddar penderfynwyd arallgyfeirio i gynhyrchu dofednod. Mae wedi gwneud llawer iawn o waith ymchwil ar ei phwnc dewisol sef edrych ar ateb ar gyfer y broblem wastraff ar ffermydd dofednod ym Mhowys. Mae’n dweud bod ffermydd dofednod Powys yn cynhyrchu digon o faw ieir i roi trydan i bob cartref yn y sir! Mae Sarah yn gyn-aelod o’r Academi Amaeth.

Cynnig Sarah ar ei hymweliad yw chwilio am atebion i’r broblem wastraff trwy drosi baw ieir yn drydan. Mae’n bwriadu ymweld â’r Iseldiroedd – y cwmni sawl cyfleustod Moerdijk Dutch DELTA - sy’n prosesu baw ieir i gynhyrchu trydan mewn uned 150 Miliwn Ewro sy’n trosi 444,000 tunnell o faw ieir gan gyflenwi trydan i 90,000 o gartrefi. 

“Rwy’n bwriadu ymweld â phrosiect Chimera yn yr Eidal lle mae offer bychan ar ffermydd yn trosi baw ieir yn drydan gwres a gwrtaith o’r lludw.” 

Bydd Sarah hefyd yn ymweld â Gogledd Iwerddon i weld sut y mae Westland Horticulture Ltd yn prosesu a gwerthu pelenni baw ieir i greu gwrtaith gardd. 

 

Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth: