Bydd Chris Hughes o Lanfair ym Muallt yn ymweld â'r Almaen, Awstria, Slofacia a Slofenia
Mae Chris Hughes yn berchennog coetir o Lanfair ym Muallt sydd wedi treulio y rhan fwyaf o’i oes waith yn mentora yn y sector tir. Bu yn mentora yn y brifysgol fel ymchwilydd ôl raddedig; yn y byd amaeth trwy ei rolau ymgynghorol; yn y diwydiannau coedwigaeth a choetir trwy ei swyddi fel uwch reolwr ac archwiliwr, ac fel cyfarwyddwr ar gwmni hyfforddi amlddisgyblaeth sy’n cynnwys mentora tîm o fwy na 30 o hyfforddwyr ac aseswyr.
Mae hefyd yn darparu hyfforddiant wedi achredu gan Cyswllt Ffermio a chefnogaeth i unigolion a busnesau yn ymwneud â rheoli coetir, sgiliau peiriannau ymarferol ac iechyd a diogelwch yn gyffredinol. Mae’n bwriadu ymweld ag Awstria i edrych ar ddatblygu systemau craen uchel gwahanol i’w defnyddio mewn coetiroedd fferm a phreifat.
“Mae rhai perchnogion coetir preifat, gweithgynhyrchwyr bychan a chanolfannau hyfforddi yn yr Almaen, Awstria, Slofacia a Slofenia sy’n defnyddio offer craen bychan i gael coed o dir anodd a serth sydd yn anodd i beiriannau ar olwynion neu draciau eu cyrraedd.
“Rwyf yn bwriadu ymweld â chysylltiadau yn y gwledydd yma i weld eu peiriannau a’r ail gam yn y cynllun fyddai naill ai prynu neu adeiladu peiriannau tebyg a fyddai’n addas i dynnu coed o ffermydd a choetir Cymru.”
Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth