Hugh Brookes, Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin
Mae Hugh Brookes yn cadw defaid, moch a dofednod. Ei obaith yw ymweld ag Awstria i weld busnes moch arbenigol, Arche De Wiskentale, a fydd yn rhoi cyfle iddo ddysgu am fridio dethol, magu a chigydda’r brîd moch Mangalitza.
Mae’n awyddus i weld croes fapio ar y modd y gall ffynonellau maeth i foch, sy’n cynnwys cynnyrch gwastraff fel grawn bragwyr, maidd, caws a ffrwythau a llysiau dros ben, gael ei deilwrio i gyd-fynd â’r arfer gorau o ran strategaethau porthi, yn ôl oedran a diben y mochyn.
Bydd y wybodaeth a geir yn canolbwyntio i gychwyn ar Mangalitza, ond gobeithio y bydd iddi oblygiadau ehangach i fagu moch yng Nghymru, gan leihau gwastraff bwyd a thirlenwi o bosibl. Un rheswm am y gostyngiad mewn cadw moch yng Nghymru, yn yr un modd â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yw’r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i drafod pa fath o wastraff bwyd dynol y gellir ei roi i dda byw. Bydd gwybod pa wastraff y gellir ei ddefnyddio a hefyd sut i’w ddefnyddio yn effeithiol fel porthiant yn fantais ar sawl ffrynt gwahanol.
AdRODDIAD cYFNEWIDFA rHEOLAETH