Bwyd o'r Tir - Tyfu ar gyfer y Dyfodol 2025
Edrychwch yn fanwl ar Arallgyfeirio a Meithrin Cyfleoedd Newydd ym maes Garddwriaeth!
Mae rhaglen Agrisgôp newydd Cyswllt Ffermio, sydd wedi'i hanelu at ffermwyr ifanc brwdfrydig yng Nghymru, yn gyfle i edrych ar yr opsiynau arallgyfeirio cyffrous y gall tyfu cynnyrch ffres eu cynnig, ac i ennill y wybodaeth i'w gwneud yn fenter lwyddiannus.
Mae’r rhaglen 'Bwyd o'r Tir' - Tyfu ar gyfer y Dyfodol yn cynnig cyfle i ffermwyr ifanc dros 16 oed edrych ar gynhyrchu llysiau proffidiol trwy ymweliadau astudio â ffermydd sy’n arddangos gwahanol gnydau a modelau busnes.
Byddwch yn barod i gael eich ysbrydoli gan dyfwyr blaenllaw o bob cwr o Gymru a thu hwnt!
Mae'r rhaglen yn cynnwys dau ymweliad astudio dros nos ag amrywiaeth eang o fusnesau garddwriaeth, gan gynnwys gweithrediadau yn y cae ar raddfa fawr, mentrau ffrwythau meddal llwyddiannus, a chynhyrchwyr cnydau arbenigol arloesol. Bydd yr ymweliadau hyn hefyd yn cynnwys arbenigwyr yn y diwydiant yn rhannu cyngor busnes ac ariannol hanfodol i helpu i feithrin eich menter arddwriaethol lwyddiannus eich hun.
Gyda sesiynau grŵp i rannu syniadau, trafod gwersi a ddysgwyd, ac archwilio ymarferoldeb arallgyfeirio i aelodau’r rhaglen, bydd yn gyfle da i gwrdd â phobl newydd a datblygu cyfeillgarwch.
Gyda chymorth y rhaglen, bydd y grŵp hefyd yn cyfrannu at greu cystadleuaeth garddwriaeth Clybiau Ffermwyr Ifanc ar gyfer 2026.
Mae’r rhai sy’n cyfrannu tuag at y rhaglen 'Bwyd o'r Tir' yn cynnwys CFfI, Castell Howell, Puffin Produce, Sgiliau Bwyd, ac amrywiaeth o ffermwyr a thyfwyr o Gymru a rhai Cenedlaethol.
Bydd y ffenestr gofrestru ar agor tan 5pm ar 27 Mehefin, 2025.
Os hoffech drafod y rhaglen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Jacqui Banks ar jacqui.banks@mentera.cymru neu 07961 958 806
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 16 oed