Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Fforwm Amaeth C.Ff.I Sir Gâr

Wedi ei ariannu trwy raglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaeth Cynghori o fewn Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 

Fforwm Amaeth C.Ff.I Sir Gâr

Gogledd Iwerddon

31 Hydref - 4 Tachwedd 2018


1) Cefndir

Mae Fforwm Amaeth C.Ff.I Sir Gâr yn un o nifer o bwyllgorau a fforymau C.Ff.I yn Sir Gâr. Bob blwyddyn, mae’r grŵp yn mwynhau mynd ar daith am 3 neu 4 diwrnod pob blwyddyn er mwyn cael y cyfle i fynd o adre a gweld y gwahanol bethau sydd gan ardaloedd eraill i’w gynnig. Eleni, penderfynodd y grŵp fynd i Ogledd Iwerddon i ymweld  nifer o ffermydd a chwmnïau lleol.

Fe benderfynodd y grŵp drefnu’r daith addysgiadol hon er mwyn ehangu rhagolygon y grŵp ar amaeth a’r ffordd y mae’r diwydiant amaeth yn newid o ddydd i ddydd. Mae’r holl aelodau yn dod o gefndiroedd gwahanol, gyda rhai yn ffermwyr godro, rhai’n ffermwyr defaid a rhai’n beirianwyr amaethyddol. Cytunodd y grŵp ar fusnesau a chwmnïau gwahanol oedd o ddiddordeb i bawb.

Bydd y daith yn gyfle i’r grŵp i rannu a gweld syniadau, cymdeithasu a bod mewn awyrgylch gwahanol. 

2) Amserlen

2.1

Diwrnod 1

Ar ôl cyrraedd Gogledd Iwerddon a chael ychydig o frecwast, y lleoliad cyntaf oedd Fferm “Culmore Organic Farm”. Fferm bîff oedd hon gyda dros 300 o wartheg. Roedd y teulu yma wedi newid o fod yn fferm draddodiadol i fferm organig nôl yn 2006, ar ôl i’r perchennog fod ar daith astudio allan yn Ffrainc. Cawsom daith o amgylch y fferm i weld y peiriannau a’r stoc. Dysgwyd sut oedd gwneud y fferm yn organig a chafwyd cyfle i weld sied lle’r oedden nhw’n  cadw eu cynnyrch cyn gwerthu allan i gwmniau lleol. Cafodd y grŵp wybodaeth am y ffordd yr oedd y fferm yn bwydo eu hanifeiliad a sut oedd cael y “finished product”.

Fferm Ieir Martin Blair oedd nesaf ar yr amserlen. Dyma un o ffermydd ieir mwyaf Gogledd Iwerddon gyda dros 110,000 o ieir. Cawsom daith o amgylch y fferm a gweld sut y broses o eni’r ieir, i dyfu ac yna i ddodwy wyau. Cafodd sawl aelod sioc o weld sut oedd yr holl beth yn gweithio. Cafodd yr aelodau hefyd gyfle i weld y cyfleusterau pecynnu wyau yn ogystal â’r sied fawr lle oedd yr ieir yn cael eu cadw. Gwelwyd y systemau rheoli gwastraff hefyd yn ogystal â pheiriannau oedd yn mynd ar wyau o’r sied ddodwy i’r sied bacio.

Noson o gymdeithasu i’r aelodau wedyn. 

Diwrnod 2

Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad i gwmni Lough Neagh Fishermans. Lough Neagh yw’r llyn mwyaf yng Ngogledd Iwerddon a chafodd y grŵp cyfle i wylio un neu ddwy long yn dod nôl i mewn o’r llyn gyda nifer o lysywod (eels) sef y pysgod yr oeddent yn pysgota o ddydd i ddydd. Er nad oes llawer o lysywod gael yn y gaeaf, roedd y pysgotwyr wedi mynd allan yr amser cywir gan iddynt ddal nifer fawr y diwrnod hynny. Cafwyd taith o amgylch y ffatri a chafodd y grŵp glywed hanes y lle yn ogystal â hanes y llysywod yn y llyn. Cafwyd sgwrs ynglŷn â’r dulliau yr oedden nhw’n eu defnyddio hefyd. Ar ddiwedd yr ymweliad cawsom gyfle i flasu’r pysgod. Dyma ymweliad gwerthfawr iawn gan nad oedd y math yma o fusnes yn gyfarwydd iawn i’r aelodau.

 

Ymlaen a ni tuag at FfermDerry Duff nesaf. Dyma fferm bîff a da godro a oedd yn rhedeg menter blanigion hefyd. Roeddent yn gwerthu eu cynnyrch cig i  gigyddion lleol. Cafodd y grŵp daith o amgylch y fferm a’r gwahanol adeiladau. Roedd coedwig ar y fferm hefyd lle oeddent yn tyfu gwahanol blanhigion yn cynnwys afalau a ffrwythau eraill. Dyma ymweliad diddorol iawn gan bod y dulliau a ddefnyddir yn debyg i ddulliau ambell aelod ar y trip. Roedd ochr tyfu planigion y busnes yn hollol wahanol hefyd. 

Diwrnod 3

Dechreuwyd y trydydd diwrnod gyda thaith i lawr i ardal Omagh i ymweld cwmni Telestack Ltd sef cwmni oedd yn adeiladu ac yn gwerthu cynnyrch “Bulk Material Handling Products” o amgylch Iwerddon, Gogledd Iwerddon a sawl gwlad arall. Cafodd y grŵp daith o amgylch y ffatri gan weld gweithredoedd presennol yn ogystal â phethau yr oedden nhw’n gweithio arnynt. Cawsom glywed hanes y cwmni a sut yr oeddent yn cyflenwi gwahanol beiriannau ar gyfer gwahanol ddiwydiannau megis y diwydiant glo, chwareli, porthladdoedd a gorsafoedd pŵer hefyd. Roedd y cyfle i weld sut oedd peiriannau gwahanol yn cael eu defnyddio mewn diwydiannau gwahanol yn wych.

Yr ymweliad nesaf oedd ymweliad i Fivemile Town Creamery. Cafodd yr ymweliad hwn ei rannu’n ddau -  ymweliad i’r fferm odro i ddechrau ac yna ymweliad i’r ffatri cynhyrchu caws a oedd wedi’i lleoli tua milltir o’r fferm. Cawsom daith o amgylch y Fferm, gang weld y stoc a’r peiriannau oedd gyda nhw. Cawsom glywed hanes y fferm a’r cwmni caws a sut oeddent wedi datblygu’r syniad o greu caws. Dechreuwyd y busnes caws yn 1988 ac roedd pethau wedi newid yn sylweddol ers hynny. Roedd yr ymweliad i’r ffatri yn ddiddorol iawn a chafodd y grŵp gyfle i weld yr amrywiaeth o gaws, menyn a llaeth a gynhyrchir yno. Gwelwyd y llaeth yn dod i mewn ac yna sut oedd yn cael ei brosesu er mwyn gwneud y caws a’r menyn. Cafodd y grŵp gyfle i flasu’r cynnyrch gwahanol hefyd.

Diwrnod 4

Diwrnod o ymlacio oedd y pedwerydd diwrnod cyn dechrau am adre. Treuliwyd hanner y diwrnod ym Melfast cyn mynd ymlaen i ymweld Bragdy Long Meadow Cider. Cawsom daith o amgylch y fferm lle dysgodd yr aelodau am y gwahanol blanhigion a dyfir yno. Cafwyd cyfle i weld lle oedd yr afalau yn cael eu cadw o fis Medi tan fis Mehefin cyn cael eu defnyddio. Cawsom daith o gwmpas y ffatri lle oedd yr afalau’n cael eu prosesu er mwyn creu’r seidr. Wedi hyn cafwyd taith o gwmpas y stordy lle oedd y seidr yn cael ei storio cyn ei werthu. 

3) Camau Nesaf

Cafwyd cyfarfod wythnos ar ôl y daith yma. Dywedodd nifer o’r aelodau eu bod wedi mwynhau’r daith yn fawr iawn a’u bod wedi dysgu llawer yn ogystal â chael sioc o weld sut oedd ambell i gwmni yn cael eu rhedeg. Roedd sawl un yn awyddus i fynd ar daith arall yn fuan.

Bydd nifer fawr o’r aelodau yn dychwelyd i’w busnesau i ddefnyddio’r technegau a’r syniadau a welwyd ar y daith. Wrth weld beth oedd y ffermwyr yma yn ei wneud, efallai bydd nifer yn ymchwilio’r syniadau ymhellach er mwyn datblygu eu hunain a datblygu eu busnesau. Gan fod y rhan fwyaf yn gweithio ar fferm deuluol gyda’i rhieni, y cam nesaf bydd cyflwyno’r syniadau yma iddynt.

Pwyntiau gweithredu:

  1. Cyfarfod eto yn fuan
  2. Ymchwilio posibiliadau arallgyfeirio
  3. Cyflwyno syniadau i’w rheini a chymryd rhan yng ngynlluniau’r busnes
  4. Taith arall blwyddyn nesaf!