Cyfarfod Teuluol ar Olyniaeth

Yn amlach na pheidio, mae rhai o’r sgyrsiau mwyaf arwyddocaol am olyniaeth teulu fferm yn digwydd o amgylch bwrdd y gegin. Dyna pam y gall Cyswllt Ffermio ddarparu hwylusydd i’ch helpu i lywio’r sgyrsiau pwysig hynny. Mae’n hollbwysig fod pob aelod o’r teulu yn bresennol ac mae sicrhau fod pawb yn cael cyfle i siarad yn allweddol.

Gallwch ddewis eich hwylusydd o'n rhestr o unigolion proffesiynol profiadol a all ddarparu arweiniad annibynnol, diduedd a sensitif yn gwbl gyfrinachol.

I wneud cais am y gwasanaeth hwn, llenwch ffurflen ymholiad fer neu cysylltwch â'n Hwylusydd Olyniaeth.

Eiry Williams - 07985155670 / eiry.williams@menterabusnes.co.uk