Amaeth-amgylchedd, Gwasanaethau Ecosystemau a Bioamrywiaeth

Manteision ar gyfer eich busnes:

Bydd y categori rheoli adnoddau naturiol hwn yn eich cynorthwyo i adnabod, diogelu a rheoli cynefinoedd gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid.

Byddwch yn derbyn cyngor ynglŷn â sut i ddiogelu a chyfoethogi rhywogaethau newydd a phresennol ar y tir, mewn dŵr ac mewn adeiladau fferm. 

Byddwch hefyd yn gallu adnabod a rheoli safleoedd o ddiddordeb hanesyddol, archeolegol neu bensaernïol, gyda ffocws ar werth bioamrywiaeth a diogelu’r amgylchedd amaethyddol.

Mae gan fusnesau 9 mis i gwblhau cyngor un-i-un a 12 mis i gwblhau cyngor grŵp, oni bai bod cais y grŵp yn cael ei gymeradwyo ar ôl 1 Chwefror 2022. Yn yr achos hwn, bydd y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r cyngor yn 31.01.2023.