Pam fyddai Brian yn fentor effeithiol
- Yn ogystal â rheoli’r fferm deuluol ers gadael yr ysgol, mae Brian yn rhedeg ei fusnes hyfforddi ac ymgynghori Iechyd a Diogelwch annibynnol ers yr 1980au cynnar, gan arbenigo mewn Iechyd a Diogelwch fferm, yn gweithio gyda ATB, NPTC, RTITB a Lantra
- Mae gan Brian gymwysterau TDLB a NEBOSH ac mae’n aelod o grŵp diwydiannau gwledig yr IOSH
- Mae’n gweithio fel aseswr Sicrhau Ansawdd Allanol (EQA) ar gyfer Lantra yn ogystal â gweithio i’r HSE/Lantra fel prif hyfforddwr y tîm SHAD (Diwrnodau Ymwybyddiaeth Iechyd & Diogelwch)
- Mae ei feysydd o arbenigedd yn cynnwys pob agwedd o ddiogelwch fferm cyffredinol yn cynnwys gweithio gydag anifeiliaid; peiriannau codi; tractorau ac ATVs; peiriannau; plaladdwyr; gofal llawr; gweithio ar uchder; diogelwch safleoedd adeiladu ac Iechyd a Diogelwch cyffredinol
- Yn gyfathrebwr medrus, mae Brian wedi hyfforddi a chynghori pobl ar Iechyd a Diogelwch fferm am y rhan fwyaf o’i oes, a dyweda bod y rôl o ymweld a chefnogi ffermwyr i’w helpu i weithredu dulliau mwy diogel o weithio yn rhoi boddhad mawr iddo
- Brian yw cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, sy’n dod â’r holl sefydliadau sy’n rhandddeiliaid allweddol yng Nghymru at ei gilydd i wneud ffermydd yng Nghymru’n llefydd mwy diogel i weithio
- Gall Brian gynnig cefnogaeth ar y rheoliadau llygredd amaethyddol newydd.
Busnes fferm presennol
- Fferm 247 erw, yn rhentu 74 erw
- 700 o ddefaid yn cynhyrchu mamogiaid bridio ac ŵyn wedi’u pesgi
- 16,000 o ieir dodwy wyau maes
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- Nifer o swyddi gyda CFfI yn cynnwys Cadeirydd Sir, Cymru a Chenedlaethol a Chadeirydd CFfI Maesyfed
- Aelod o’r Cyngor
- Cymrawd o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol am wasanaeth i Iechyd a Diogelwch (FRAgS)
- Wedi derbyn Is-Lywyddiaeth Oes er Anrhydedd am ei wasanaeth i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC)
- Prif stiward rheoli traffig CAFC
- Cadeirydd y Llywodraethwyr a rhiant lywodraethwr, Ysgol Uwchradd Llandrindod
- Country Landowners & Business Association (CLA) – cyn-gadeirydd a chadeirydd cangen Aberhonddu a Maesyfed
- Wedi gweithio gyda’r HSE yn ymchwilio damweiniau a gweithgareddau tyst arbenigol
AWGRYMIADAU DA AR GYFER RHEOLAETH IECHYD A DIOGELWCH
“Gwnewch yn siŵr bod pawb sy’n gweithio ar y fferm wedi derbyn hyfforddiant neu’n gymwys i gyflawni’r gwaith dan sylw.”
“Cadwch yr holl gerbydau a pheiriannau mewn cyflwr da, gweithredol a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu harchwilio’n rheolaidd.”
“Defnyddiwch y weithdrefn ‘Aros yn Ddiogel’ bob tro cyn gadael safle’r gyrwr/gweithredwr, pan mae rhywun arall yn agosau neu cyn bod rhywun yn trin y peiriant neu’n delio ag unrhyw rwystr. Defynyddiwch eich brêc llaw; rhowch bob rheolydd yn niwtral; stopiwch y peiriant a thynnwch yr allwedd o’r cerbyd.”
“O ran gweithio gydag anifeiliaid mawr, defnyddiwch yr offer diogelwch cywir a cheisiwch osgoi gweithio ar eich pen eich hun a pheidiwch byth dybio sut y bydd yr anifail yn ymateb.”