Pam fyddai Keri yn fentor effeithiol

  • Dechreuodd Keri a’i wraig Julie arallgyfeirio eu fferm bîff a defaid gan sefydlu busnes twristiaeth sydd wedi ehangu’n sylweddol erbyn hyn. Dechreuodd y ddau gyda dau dŷ coed Americanaidd cyn mynd ymlaen i brynu fferm gyfagos gan adnewyddu’r tŷ a’r beudai i gysgu 25 o westeion, a phrynu tafarn lleol. Mae eu rhaglen ffurfiol o ddatblygu eiddo wedi parhau gyda llety 5* mewn cymysgedd o adeiladau newydd ac wedi’u hadnewyddu yn ogystal â phodiau glampio. Yn fwy diweddar maent wedi adnewyddu’r fferm deuluol gan brynu tŷ yn Llanusyllt, gan gynyddu eu capasiti llety i gysgu 100 o bobl. Mae’r busnes hefyd wedi buddsoddi £150,000 mewn ynni adnewyddadwy dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Mae Keri wedi bod yn llwyddiannus yn datblygu Grŵp Dŵr y Bannau, ble mae 6 ffermwr yn cydweithio gyda Dŵr Cymru i sefydlu Cwmni Buddiant Cymunedol, gyda Keri fel cyfarwyddwr. Mae’r grŵp yn peilota syniadau arloesol ar atal llifogydd, rheoli maetholion, casglu data tywydd a storio carbon ar draws y dalgylch afon. Mae’r grŵp yn awyddus i helpu ffermwyr eraill i weithio gyda’i gilydd ar lefel dalgylch, ac i geisio am gynlluniau ariannu amgen trwy newid defnydd tir.
  • Cafodd Keri ei ddewis fel un o’r ymgeiswyr cyntaf ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth a lansiwyd yn 2012 a dyweda Keri bod y profiad, buddion a’r rhwydweithiau newydd wedi newid ei fywyd. Dyweda Keri bod y profiad wedi darparu’r hyder, sgiliau a rhwydweithiau iddo gymryd rhan fwy blaenllaw mewn polisi fferm ar lefel strategol yn ogystal â datblygu agwedd fwy strategol o ran datblygu busnes. Yn llysgennad brwd dros ddatblygiad personol a busnes, mae dau o’u blant wedi cymryd rhan yn Rhaglen yr Ifanc, ac maent bellach yn dod nôl adref i redeg y busnesau fferm a thwristiaeth.
  • Mae Keri’n canolbwyntio ar fagu stoc ansawdd uchel, yn ogystal â rheoli’r fferm mewn modd effeithiol er mwyn sicrhau bod pob elfen o’r busnes yn gwireddu eu potensial. Gyda llygad craff ar y dyfodol, mae Keri wrthi’n gwneud cynlluniau i gynnwys ei fab a’i ferch mewn cynllun olyniaeth gadarn.
  • Mae sgiliau cyfathrebu ardderchog Keri yn golygu ei fod yn llefarydd poblogaidd ac effeithiol wrth gynrychioli’r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n awyddus i annog ffermwyr entrepreneuraidd eraill i ystyried ffrydiau newydd o incwm a all eu helpu i ddatblygu busnes fferm broffidiol a chynaliadwy

Busnes fferm presennol

  • 130 acer a 150 acer a rentir gan ei rieni – caiff yr holl dir ei ffermio’n organig sy’n arwain at system ffermio cost isel, garedig i’r amgylchedd sy’n seiliedig ar laswellt llawn siwgr.
  • Rhan o gynlluniau Glastir Sylfaenol a Glastir Uwch
  • 30 o wartheg bridio
  • 30 o wartheg stôr
  • 550 o famogiaid Texel a Phenddu Miwl croes a gaiff eu gwerthu i Waitrose ar gytundeb
  • Defnyddir offer EID i recordio perfformiad, yn cynnwys system ddidoli awtomatig 3 ffordd ac iard clampio symudol
  • 7 erw o rawnfwyd wedi’u hau yn y gaeaf
  • 9 llety hunan arlwyo 5* yn cysgu hyd at 88 o westeion
  • 3 pod glampio wagen rheilffordd pwrpasol 5* yn cysgu hyd at 12 o westeion
  • Tafarn/Bwyty/Gwely a Brecwast yn Libanus
  • 1 tŷ a osodir ar sail hir dymor
  • Contractio: torri gwrychoedd/byrnau crwn
  • Darparu caeau chwaraeon ar gyfer ysgol leol

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • NCA mewn Amaethyddiaeth (Distinction) - Coleg Amaethyddol Usk
  • Yn ymwneud â nifer o sefydliadau yn cynnwys cadeirio’r grŵp cofnodi ar gyfer yr Adolygiad o Fiwrocratiaeth ‘Hwyluso’r Drefn’ Llywodraeth Cymru a chynrychioli’r diwydiant organig fel rhan o’r Adolygiad Glastir
  • Cyfarwyddwr Grŵp Dŵr y Bannau
  • Cyd-is-gadeirydd y Fforwm Organig
  • Aelod o Grŵp Llywio Dalgylch Anferth Dŵr Cymru
  • Wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddiant tir yn cynnwys defnyddio llif-gadwyn, chwistrellu, gyrru tractor, torri gwrychoedd a llawer mwy
  • Terfynydd Cymru yng Ngwobrau’r Cornchwiglen Arian yn 2017
  • Aelod o’r Academi Amaeth yn 2012 ac yn parhau i fod mewn cysylltiad â’r grŵp

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Dechreuwch gyda’r pridd. Mae rhaid i bob busnes sefyll ar sylfeini cadarn. Gwnewch yn siwr bod eich holl fentrau arallgyfeirio yn cael eu hadeiladu ar y gallu i fenthyg o gyfrifon fferm proffidiol.”

“Ceisiwch gadw meddwl positif bob amser a cheisiwch gymysgu â phobl bositif. Manteisiwch ar bob cyfle i fynd oddi ar y fferm a dysgu gan eraill.”

“Aml y mae synnwyr cyffredin a brwdfrydedd yn ennill y dydd.”