Pam y byddai Llŷr yn fentor effeithiol

  • Mae Llŷr yn ffermwr a dyn busnes blaengar sy’n frwd dros sicrhau dyfodol y diwydiant amaeth yng Nghymru am genedlaethau lawer i ddod. Mae ganddo bortffolio ffermio amrywiol, sy’n cynnwys cig eidion, cig oen a dofednod, ond mae wedi arallgyfeirio i feysydd eraill, gan gynnwys olew had rêp.
  • Ag yntau wedi ymrwymo i ddod â'r technolegau diweddaraf i'r diwydiant, mae Llŷr wedi gwneud newid sylweddol i ynni dŵr, ynni'r haul a gwresogi ffynhonnell daear/aer, gan wneud ei fusnes yn 100% adnewyddadwy.
  • Gosododd un o'r peiriannau sychu baw ieir cyntaf yn y DU gan leihau amonia 25% a thaenu 50 llwyth tractor yn llai bob blwyddyn, oherwydd bod gan y baw lai o ddŵr. Mae hefyd yn rhedeg Mule Polaris cwbl drydanol. Yn debyg i feic cwad, roedd yn un o'r rhai cyntaf yn y DU.
  • Mae Llŷr yn disgrifio'i hun yn fentrus, yn llawn ysgogiad ac yn hyblyg. Mae ei sgiliau rheoli prosiect cryf a’i feddwl blaengar wedi’i alluogi i sefydlu a rhedeg amrywiaeth o fusnesau llwyddiannus, sy’n cynnwys cig eidion, defaid, dofednod, twristiaeth, ac olew had rêp, ac mae’n ymwneud yn helaeth â systemau cynaliadwy ac ynni adnewyddadwy.
  • Mae Llŷr hefyd yn dod o hyd i amser ar gyfer gwaith elusennol. Yn 2006, ar ôl y Tswnami, aeth i Sri Lanka gyda grŵp o wirfoddolwyr lleol i adeiladu ysgolion a chartrefi plant amddifad. Yna ffurfiodd elusen o'r enw Cam wrth Gam, ac ers hynny, mae wedi mynd â grwpiau o fwy na 40 o wirfoddolwyr i Affrica chwe gwaith. Mae'r elusen wedi codi £38,000, sy'n helpu i addysgu 400 o blant y flwyddyn mewn pedair ysgol a adeiladwyd gan yr elusen. Yn ogystal, mae gan 1,000 o bobl fynediad i dwll turio (y gyrrodd Llŷr i'r Gambia mewn hen lori Ford transit oedd wedi cael ei gyfrannu fel rhodd) a system casglu dŵr glaw newydd. Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn gwneud teithiau i Wcráin i ddosbarthu cyflenwadau meddygol.
  • Mae galw mawr amdano fel siaradwr cyhoeddus ar gyfer amrywiaeth eang o sefydliadau amaeth-gysylltiedig; fe welwch fod Llŷr yn wrandäwr da ac yn gyfathrebwr dwyieithog hyderus a fydd yn cynnig barn ddiduedd ar unrhyw syniadau sydd gennych am ei bynciau arbenigol. Mae ganddo gyfoeth o brofiad ar draws sawl maes busnes a ffermio, yn ogystal â’i fentrau arallgyfeirio niferus –cewch eich ysbrydoli a’ch annog i ‘feddwl y tu allan i’r bocs’!

Busnes fferm presennol

  • 1,600 erw (ar draws tair uned – mynydd/ucheldir/iseldir)
  • Diadell o 1,000 o famogiaid a mulod Cymreig
  • Yn 2021, daeth Llŷr yn bartner mewn menter ar y cyd yn magu 250 o loi cig eidion a werthwyd fel anifeiliaid stôr.
  • 32,000 o unedau dofednod buarth, wyau i gyd yn cael eu gwerthu i Tesco
  • Mae Llŷr wedi gosod system trydan dŵr sy'n rhedeg ei holl fusnesau. Mae hyn yn cynnwys pwmp gwres ffynhonnell daear 60kw a dau bwmp gwres ffynhonnell aer sy'n gwresogi'r uned wyau, y ffermdy a'r bwthyn gwyliau.
  • Bwthyn gwyliau sy’n cael ei osod drwy Airbnb a menter twristiaeth maes gwersylla gwyllt
  • Wedi'i sefydlu yn 2010 ac yn gydberchnogaeth Llŷr a dau ffrind ffermio, Blodyn Aur yw'r unig olew had rêp Cymreig – wedi'i dyfu, ei wasgu'n oer a'i botelu yng Nghymru – gwerthir 6,000 o boteli'n fisol.

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad 

  • Rhaglen Busnes ac Arloesi yr Academi Amaeth 2013 (penodwyd yn arweinydd y rhaglen o 2019 hyd yma)
  • 2015 Sefydliad Ffermwyr y Dyfodol Tesco
  • Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol Principality ac NFU 2016
  • Cyflenwr Amaethyddol y Flwyddyn Tesco 2018
  • Gwobr Gwir Flas 2019 am Dresin Mêl a Mwstard Blodyn Aur
  • 2022 gwobr genedlaethol Meurig Raymond yr NFU
  • Gwobr Dafydd Jones 2022

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes  

“Os ydw i'n meddwl am rywbeth rydw i'n ei wneud. Unwaith y byddwch wedi gwneud eich ymchwil, rhowch gynnig arni, oherwydd dydych chi ddim eisiau edrych yn ôl ymhen ychydig flynyddoedd yn difaru ac yn meddwl ‘beth os?”.

“Methiant yw pan na fyddwch chi hyd yn oed yn rhoi cynnig ar rywbeth, nid pan na fyddwch chi'n llwyddo – oherwydd rydyn ni i gyd yn dysgu o gamgymeriadau.”

“Byddwch yn ddigon dewr i gymryd y cam cyntaf, gwnewch y buddsoddiad cyntaf!”