Pam fyddai Sian yn fentor effeithiol
- Mae Sian wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ffermio a garddwriaeth drwy gydol ei hoes ac mae hi erbyn hyn yn byw ac yn gweithio ar y fferm ucheldir deuluol 600 erw gyda’i gŵr a’u tri o blant. Mae’r fferm wedi arallgyfeirio ac mae’n cynnwys mentrau bîff, defaid, dofednod a llety gwyliau. Mae gan Sian sgiliau rheoli amser a gweinyddol ardderchog ac mae’n gyfrifol am goll gyfrifon a chofnodion y fferm, yn ogystal â chyfrifon a gwaith papur y busnesau arallgyfeirio.
- Yn 2010, penderfynodd y teulu arallgyfeirio a sefydlwyd menter magu ieir maes. Mae’r fenter yn cynnwys 12,000 o ieir ar uned faes. Mae’r ieir yn cael eu magu rhwng diwrnod a 56 diwrnod oed ac yna’n cael eu hanfon at ffatri cyn cael eu gwerthu i Marks & Spencer. Mae Sian yn gyfrifol am reoli’r sied ddofednod o ddydd i ddydd.
- Mae Sian hefyd yn berchen ar fusnes llwyddiannus yn gosod blodau, a sefydlwyd yn 2001. Adeiladwyd stiwdio flodau ar y fferm ac mae’r busnes yn darparu blodau ar gyfer priodasau ac angladdau’n bennaf, yn ogystal ag unrhyw achlysuron eraill.
- Yn 2013, prynodd y teulu fferm 60 erw gyfagos ac fe aethant ati i atgyweirio’r ffermdy i greu llety gwyliau 5 seren. Mae’r bwthyn 3 ystafell wely’n cynnig nifer o nodweddion moethus yn ogystal â hot tub. Mae’r teulu bob amser yn edrych tuag at fuddsoddi yn nyfodol y fferm ac mae ganddynt gynlluniau i adnewyddu ysgubor a fydd hefyd yn cael ei wneud yn llety gwyliau.
- Mae Sian yn gyfathrebwr dwyieithog ardderchog ac yn wrandäwr da gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn mentrau arallgyfeirio. Gall Sian gynnig arweiniad i fusnesau ffermio eraill sy’n dymuno creu mentrau newydd.
Busnes fferm presennol
- Fferm ucheldir 600 erw
- 12,000 o ieir maes yn cael eu magu ar gyfer cig
- 100 o wartheg Limousin croes
- Diadell o ddefaid Texel pedigri gyda’r mwyafrif yn cael eu gwerthu drwy Arwerthiannau’r Gymdeithas neu’n cael eu cadw.
- 1,200 o famogiaid, miwl Cymreig yn bennaf wedi’u croesi â hyrddod Texel
- Bwthyn gwyliau 5 seren
- Busnes gosod blodau
- Paneli solar
Cymwysterau / cyflawniadau / profiad
- 2011: Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth, Coleg Gwent, Brynbuga
- 2010 – presennol: Mentor ar gyfer y cynllun YESS
- 2000 – presennol: Aelod o Bwyllgor Cynghori Sir Faesyfed a Phwyllgor Nwyddau a Menter, Cyngor CAFC
- Ysgrifennydd a Thrysorydd ar ran Ymddiriedolaeth Neuadd Fasnach Rhaeadr a Smithfield
Awgrymiadau er mwyn llwyddo mewn busnes:
1. “Peidiwch â dibynnu gormod ar un peth”
2. “Nid oes neb yn rhy hen i ddysgu rhywbeth newydd”
3. “Mae gwaith caled yn talu ar ei ganfed”