Cyfleoedd i arallgyfeirio i farchnadoedd newydd a gwella gwytnwch ffermydd drwy gynhyrchu blodau bwytadwy a llysiau egsotig ac anghyffredin yng Nghymru.
Bu micro saladau, llysiau anghyffredin a blodau bwytadwy yn boblogaidd iawn mewn bwytai crand ers blynyddoedd lawer. Mae’r galw am fwydydd newydd ac egsotig o bob cwr o’r byd yn awr yn fwy nag erioed. Mae hwn yn gyfle gwych i dyfwyr yng Nghymru sy’n awyddus i arallgyfeirio eu harlwy a chynyddu eu cynhyrchiant. Er bod y cnydau arbenigol hyn wedi cael eu tyfu’n llwyddiannus mewn gwahanol wledydd, nid oes dim cyngor agronomeg sy’n ymwneud yn benodol â hinsawdd Cymru ar gael.
Bydd y prosiect dwy flynedd hwn yn rhedeg ar ddwy uned garddwriaeth fasnachol yng ngogledd Cymru a’r nod fydd:
- Magu profiad ymarferol o dyfu llysiau egsotig a blodau bwytadwy, gyda chymorth tystiolaeth dechnegol o’r arferion trin tir gorau yng Nghymru er mwyn cael y cynhyrchiant gorau posibl.
- Sefydlu sylfaen dystiolaeth i helpu tyfwyr sy’n ceisio tyfu mathau newydd o gnydau ar eu daliadau, gan gynnwys pecynnau cymorth ar gyfer cynhyrchion newydd gyda chyngor ar agronomeg a marchnata.
Dyma’r planhigion maes a gynhwysir yn y prosiect:
|
Llysiau |
||||
|
Mae’r rhifau mewn du yn cyfateb i’r cynllun treialu a roddir isod. |
||||
1 |
Okahijiki Fe’u gelwir hefyd yn Hel-lys, a chaiff y dail eu bwyta’n ffres fel llysieuyn salad, a fwyteir yn draddodiadol gyda swshi, ond gallwch ei ddefnyddio hefyd fel cyfwyd i bysgod neu gyw iâr. |
|
|||
2 |
Perilla Perlysieuyn blas mintys y gellir ei ddefnyddio mewn saladau, fel garnais neu fel cynhwysyn mewn cyri neu mewn tempwra.
|
|
|||
3 |
Oyster Leaf Gallwch ddefnyddio’r dail yn ffres fel salad neu garnais, neu fel cynhwysyn mewn seigiau dwyreiniol.
|
|
|
Blodau Bwytadwy |
|
4 |
Fiola Gallwch werthu’r blodau fel garnais, fel blas neu wedi’u prosesu (e.e. fioledau siwgrog). Gallwch eu plannu fel blodau unflwydd neu fel blodau lluosflwydd mwy parhaol.
|
|
5 |
Rhewlysiau Gallwch eu tyfu fel blodau addurniadol, neu fel deunydd ffrwythau a dail bwytadwy. Fe’u defnyddir fel samphire gyda seigiau pysgod, neu fel garnais salad. Maent yn flodau lluosflwydd sy’n blodeuo rhwng Gorffennaf a Medi, a gellir cynaeafu’r deunydd dail gydol y flwyddyn ar ôl iddynt sefydlu. |
|
6 |
Begonia Maent yn ychwanegu blas i salad, neu gallwch eu defnyddio’n gynnil fel llysieuyn. |
|
Dros dri chyfnod tyfu, caiff llu o wybodaeth ei chasglu o’r amser hau drwodd i’r amser cynaeafu:
- Dwyseddau hadau
- Rheoli maethynnau
- Ffrâm amser cynhyrchu cnydau, gan gynnwys amser hau, amser tan eu cynaeafu a sut mae hyn yn rhyngweithio ag amrywiadau tymhorol.
- Gwytnwch, angen eu gwarchod ac ymateb i straen amgylcheddol, risg o blâu/clefydau.
- Rheoli planhigion
- Pa mor gydnaws ydynt â chnydau eraill a pha mor hawdd eu tyfu ydynt.
- Maint ac ansawdd cnydau
Gobeithio y bydd y prosiect hwn yn darparu gwybodaeth ymarferol i roi arweiniad i dyfwyr sydd eisiau ehangu eu dewis o gynhyrchion i gynnwys y planhigion anghyffredin neu egsotig, arbenigol hyn sy’n uchel eu gwerth.