Cymharu’r buddiannau amgylcheddol o ddefnyddio peiriannau effaith isel mewn coetiroedd fferm ar raddfa fechan

Comparison of the relative environmental benefits of low impact machinery in small scale farm woodlands

Mae coetiroedd ar raddfa fechan yng Nghymru’n adnodd nad ydynt yn cael eu rheoli’n llawn, ac mae potensial iddynt allu cynnig ffrwd incwm ychwanegol i berchennog y tir. Yn ogystal, gallai rheoli coetiroedd bychain hefyd fod o fudd i ecoleg coetiroedd a chefnogi’r gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan yr amgylchedd coetir. Fodd bynnag, nid yw maint a chost peiriannau confensiynol a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau coetir yn hyfyw ar raddfa fach. Ceir hefyd risg o niwed amgylcheddol os nad yw’r peiriannau’n addas ar gyfer y safle.

Fel rhan o’r rhaglen EIP yng Nghymru, bu’r prosiect hwn yn edrych ar opsiynau ar gyfer defnyddio peiriannau sy’n effeithio llai ar y tir er mwyn cael mynediad i goetiroedd gan bwysleisio ar yr effaith ar strwythur y pridd a dŵr ffo wrth wneud y gwaith. Rhannwyd y coetiroedd ar ddwy fferm yn bedair ardal; ardal reoli lle na chyflawnwyd unrhyw weithgareddau; clirio gan ddefnyddio peiriannau confensiynol (tractor arferol); clirio gan ddefnyddio tractor Alpaidd; a chlirio gan ddefnyddio cerbyd Bobcat ar draciau. Cafodd lefel y dŵr ffo yn ystod y gweithgareddau eu monitro, yn ogystal â cholledion maetholion a gwaddodion, ac felly’r effaith ar strwythur y pridd.

Dangosodd y gwaith bod pob un o’r peiriannau wedi gallu cael mynediad i’r coetir, ac ni achosodd yr un ohonynt unrhyw broblemau hirdymor gyda chywasgiad pridd. Amlygodd y prosiect broblemau gyda mesur dŵr ffo o’r pridd gan fod amrywiaeth sylweddol gan ddibynnu ar dopograffeg, gorchudd llystyfiant a thywydd eithafol.

Gweler yr adroddiad isod am ragor o fanylion am y prosiect a’r canlyniadau.