Dull wedi ei dargedu o wneud penderfyniadau wrth reoli buchod sych

Nod therapi dethol i fuchod sych (SDCT) yw lleihau’r therapi gwrthfiotig eang trwy dargedu’r buchod â heintiad yn eu tethi â gwrthfiotig yn unig a dim ond seliwr i’r rhai â phwrs iach. Yn y gorffennol roedd hyn yn dibynnu ar gofnodion llaeth misol a chyfrif celloedd somatig unigol, cofnodion mastitis, a defnyddio Prawf Mastitis Califfornia (CMT) ar y diwrnod sychu. Mae profion CMT yn ddibynnol ar ddehongliad ac nid ydynt bob amser yn cael eu cynnal yn ôl y manylebau ac mae’r SCC wrth gofnodi llaeth yn rhoi cyfartaledd y pedwar chwarter a gall fod hyd at fis oed.      
Yn y prosiect hwn, ymchwiliodd tri ffermwr yng ngogledd ddwyrain Cymru, gan odro cyfanswm o 1,700 o wartheg Holstein Friesian, i’r defnydd o brofion gwahaniaethol leukocyte llaeth (MLD) gan ddefnyddio Labordy Fferm Q Scout. Peiriant diagnostig cludadwy wedi ei brofi yn wyddonol yw Q Scout sy’n sganio samplau llaeth yn ficroscopig. Mae’n rhoi cyfle i samplo a phrofi pob chwarter cyn sychu i bennu a yw chwarteri unigol angen therapi gwrthfiotig i frwydro yn erbyn heintiad yn y deth, neu a allant gael eu sychu gan ddefnyddio seliwr teth mewnol yn unig. Mae canlyniadau’r profion ar gael yn gyflym iawn, sy’n golygu y gall rheolwyr stoc llaeth gael data cyfredol am iechyd y pwrs sy’n golygu eu bod yn gallu bod yn hyderus yn eu penderfyniadau ar gyfer pob buwch a phob chwarter.

 

Canlyniadau'r Prosiect

  • Rhoddodd y dechnoleg newydd hon, gyda’i chanlyniadau cyflym iawn, hyder i’r ffermydd eu bod yn sychu eu buchod yn gywir.
  • Ni fyddai rhai o’r buchod a brofwyd wedi cael eu trin â gwrthfiotigau pe bai ffermwyr yn dibynnu ar ddata cyfrif celloedd cofnod llaeth yn unig, gan olygu y byddent wedi lloia â mastitis.
  • Mae gan brofion MLD y potensial i helpu i leihau therapi gwrthfiotigau sbectrwm trwy dargedu'r buchod sydd â heintiad yn y deth â gwrthfiotigau yn unig a'r rhai â phwrs iach â seliwr yn unig.
  • O ganlyniad i leihau’r defnydd o wrthfiotigau, llwyddodd y tair fferm i arbed cyfanswm o £7,133.80 yn ystod oes y prosiect ar sail cost tiwb gwrthfiotig o £2.49 ar gyfartaledd.
  • Nid yw MLD yn rhydd o risg ac mae angen hyfforddiant cywir ar weinyddu glân, cadw cofnodion, a defnyddio technoleg newydd, i sicrhau y gellir lleihau'r risgiau hyn.