Llaeth Nos - asesu dibynadwyedd a budd economaidd
Mae’r angen am ganfod pwyntiau gwerthu unigryw (USP’s) yn bwysicach nag erioed yn y sector llaeth gan fod y cyflenwad llaeth traddodiadol yn cael ei effeithio gan farchnadoedd ansicr a phrisiau llaeth cyfnewidiol. Mae llaeth wedi cael ei ddefnyddio i hybu cwsg ers amser. Melatonin yw’r hormon sydd mewn llaeth sy’n helpu rheoli cylchred cysgu a deffro ac yn cael ei gynhyrchu yn naturiol gan y fuwch mewn ymateb i’r tywyllwch.
Roedd dau ffermwr llaeth o Ben-y-bont ar Ogwr eisiau gweld a oedd lefelau melatonin yn uwch yn y llaeth a gynhyrchir yn ystod y nos. Maen nhw’n godro eu gwartheg dair gwaith y dydd, ac mae un o’r sesiynau godro’n digwydd yn ystod y nos. Roedd hyn yn hwyluso’r dasg o samplu’r llaeth a gynhyrchwyd yn ystod y nos i weld a yw’r ‘llaeth nos’ yn cynnwys lefelau digon uchel o felatonin i allu dweud bod y llaeth yn hybu cwsg.
Dangosodd y prosiect y gallai cynhyrchu llaeth sy’n llawn melatonin fod yn fwy cymhleth nag y mae rhai astudiaethau’n ei awgrymu ar fferm fasnachol. Yn ystod y prosiect, roedd samplau o’r llaeth nos yn cynnwys lefelau uwch o felatonin na’r lefelau sy’n ymddangos yn naturiol mewn bodau dynol, ond nid oedd y lefelau’n cyrraedd y trothwy o 1mg sy’n ofynnol er mwyn gallu marchnata’r llaeth fel llaeth llawn melatonin. Daeth y ffermwyr hefyd i’r casgliad nad oedd y tymor na diet y gwartheg yn effeithio ar lefelau melatonin. Ar nodyn mwy cadarnhaol, nid oedd pasteureiddio’n effeithio ar lefelau melatonin, felly pe byddai modd dod o hyd i ffordd o addasu lefelau melatonin mewn llaeth, ni fyddai’r broses basteureiddio yn effeithio’n negyddol ar y lefelau.
Mae rhagor o fanylion ynglŷn â’r prosiect a’r canlyniadau ar gael yn y dogfennau isod.