Mapio llyngyr gan ddefnyddio eDNA i lywio'r gwaith o ddatblygu mesurau rheoli cynaliadwy

Gyda lefelau uchel o lyngyr yr iau a llyngyr y rwmen i’w gweld ledled Cymru, ynghyd â thystiolaeth o batrymau risg cynyddol ar gyfer heintiau, mae’n bwysicach nag erioed bod strategaethau diagnosis a rheoli newydd yn cael eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â hyn. Mae’n arbennig o berthnasol wrth i aeafau’r DU ddod yn gynhesach ac yn wlypach.

Mae grŵp o chwe ffermwr bîff a/neu ddefaid o ardal Aberystwyth sydd wedi profi problemau tebyg o ran haint llyngyr yn cymryd rhan yn y prosiect hwn dros gyfnod o ddwy flynedd. Byddant yn gweithio gydag IBERS a Phractis Milfeddygol Ystwyth i ymchwilio i weld a fyddai mapio llyngyr gan ddefnyddio DNA amgylcheddol (eDNA) yn eu cynorthwyo i leihau lefelau llyngyr ar ffermydd. Mae’r dechnoleg hon yn gallu canfod presenoldeb malwod y llaid sydd wedi’u heintio â llyngyr drwy ganfod eu DNA mewn dŵr sydd â’r potensial mwyaf i heintio da byw gyda pharasitiaid. Nid yw pob ardal wlyb yn cynnwys malwod y llaid wedi’u heintio, felly drwy adnabod yr ardaloedd hynny o’r caeau sy’n peri’r risg mwyaf, bydd modd lleihau cyswllt da byw gyda’r ardaloedd hynny drwy ffensio neu wella’r draeniad.

Yn ystod Hydref a Gaeaf 2020 a 2021, bydd gwaith samplu eDNA yn cael ei gwblhau ar bob un o’r chwe fferm i ganfod ardaloedd o risg isel ac uchel, a bydd hynny’n cael ei gynnwys mewn map ar lefel cae ar bob fferm. Byddant wedyn yn gweithio gyda'u milfeddyg i ddarganfod ffyrdd cost effeithiol o leihau baich llyngyr a allai gynnwys:

  • Sicrhau nad yw’r da byw sy’n cael eu troi i’r borfa yn rhyddhau wyau llyngyr drwy roi triniaeth sy’n lladd llyngyr llawn dwf. Trin anifeiliaid penodol gyda thriniaeth llyngyr megis oxyclozanide i leihau faint o wyau llyngyr sy’n heintio cynefinoedd malwod y llaid yn ystod y cyfnod allweddol hwn.
  • Rholio caeau sydd wedi cael eu potsio, atgyweirio cafnau dŵr sy’n gollwng a gwella draeniad.
  • Symud anifeiliaid i rannau sychach o'r fferm neu gadw stoc oddi ar ardaloedd arbennig o wlyb.
  • Defnyddio system bori cylchdro i gyfyngu ar nifer yr anifeiliaid sy’n agored i niwed, megis ŵyn, sy’n pori mewn ardaloedd lle mae’r risg yn uchel.
  • Cynnal profion ysgarthol a rhoi triniaeth yn rheolaidd i gyfyngu ar nifer yr wyau sy’n cael eu rhyddhau
  • Ffensio ardaloedd risg uchel dros dro i leihau cyswllt rhwng y da byw a’r ardaloedd sy’n peri risg o haint llyngyr
  • Tocio (torri) brwyn sy’n helpu drwy orchuddio ardaloedd mwdlyd gyda’r brwyn wedi’i dorri, gan gyfyngu ar gynefinoedd ar gyfer malwod y llaid.

Gobeithio y bydd y prosiect yn dangos sut y gall technoleg eDNA a mapio ffermydd nodi ardaloedd sy'n peri problemau llyngyr sy'n codi dro ar ôl tro ar ffermydd. Bydd hyn yn caniatáu i ffermwyr gymryd camau ataliol i leihau niferoedd llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen ar ffermydd da byw, a lleihau’r risg o broblemau gydag ymwrthedd.